Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Bywgraffiadau

Tomos Syrovy

Ing. Tomáš Syrový, Ph.D. | Prifysgol Pardubice | Y Gyfadran Technoleg Gemegol | Yr Adran Celfyddydau Graffig a Ffotoffiseg

Mae Dr Syrový yn awdur neu’n gyd-awdur mwy na 25 o gyhoeddiadau IF (mynegai-h 7) mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac mae hefyd yn awdur neu’n gyd-awdur mwy na 30 o gyfraniadau ar gyfer cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir mwy na 160 o ddyfyniadau o’i waith. Mae’n awdur neu’n gyd-awdur samplau gweithredol a modelau defnydd ar gyfer cynhyrchu elfennau synhwyraidd, haenau a strwythurau gweithredol yn y drefn honno (gwrth-statig, gwrthficrobaidd, diogelwch, gofal iechyd ac ati). Mae ganddo brofiad o weithgarwch ymchwil a datblygu ym maes argraffu a chaenu gweithredol a gall hefyd drosglwyddo ymarferoldeb argraffu/caenu i lefel ddiwydiannol, gan gynnwys wideweb. Fel rhan o’i weithgareddau ymchwil, paratowyd amryw o systemau gweithredol fel transistorau argraffedig, arddangosiadau electrocromig, paneli arddangos electro-ymoleuol, elfennau synwyryddion ar gyfer mesur lleithder cymharol a gwahanol elfennau canfod nwy, celloedd ffotofoltäig a chofau argraffedig, gwahanol fathau o haenau dargludol, lled-ddargludol a deuelectrig yn seiliedig ar ddeunyddiau dargludol/lled-ddargludol, deuelectrig a nanogyfansawdd. Mewn sawl achos, paratowyd y gwahanol fathau o weithrediadau gan ddefnyddio fformwleiddiadau argraffu/caenu a rhaglenni sefydlu amodau technoleg a ddatblygwyd ganddo ef ei hun. Mae hon hefyd yn un o’i rolau allweddol mewn prosiectau a gwaith cydweithredol, h.y. datblygu fformwleiddiadau inc argraffu/caenu ar gyfer haenau gweithredol gan ystyried nodweddion a grëir drwy dechnegau argraffu/caenu cywir (argraffu â sgrin, argraffu grafur, argraffu fflecsograffig, argraffu ar bad, chwistrell inc, argraffu chwistrell erosol, caenu â chwistrell, caenu drwy droelli, caenu bar sbiral ac ati).

Mae’n aelod o’r OE-A sy’n cysylltu sefydliadau gwyddonol a diwydiannol byd-eang ym maes electroneg argraffedig. Yn 2013, enillodd wobr Rheithor UPCE ar gyfer gwyddonydd ifanc o dan 35 oed am ei waith cydweithredol buddiol gyda’r diwydiant argraffu.


Tim Mortensen

Astudiodd Tim yn yr adran ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe ac enillodd radd MPhys a PhD mewn ffiseg arbrofol cyn ymgymryd â rôl ôl-ddoethurol gydag arbrawf GBar ym Mharis. Nod arbrawf GBar yw meithrin gwell dealltwriaeth o effaith disgyrchiant ar wrthfater ac, er mwyn mynd ati, roedd angen creu ystod eang o galedwedd perfformiad uchel wedi’i theilwra a rhyngwynebau meddalwedd ategol. Drwy ei gwrs PhD a’i waith ymchwil dilynol, cafodd Tim gryn dipyn o brofiad o ddatblygu’r dyfeisiau pwrpasol hyn. Profodd y profiad hwn yn allweddol ac, yn 2014, derbyniodd Tim rôl gyda Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) yn gweithio i gynhyrchu synwyryddion pwysedd argraffedig â dyluniad newydd gyda rhyngwyneb cyfrifiadurol pwrpasol. Ers y prosiect cychwynnol hwn, mae Tim wedi gweithio ar amrywiaeth o ddyfeisiau electronig argraffedig ac wedi datblygu systemau cynaeafu ynni diwifr a phecynnau deallus cost isel. Yn fwy diweddar, mae wedi bod wrthi’n ceisio dod ag amrywiaeth o ddyfeisiau argraffedig yn seiliedig ar garbon i’r farchnad.


James Claypole

Graddiodd James o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Peirianneg Sifil. Yn ddiweddar, gorffennodd ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe ym maes rheoleg uwch deunyddiau argraffedig. Gweithiodd fel intern yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) yn ystod ei astudiaethau israddedig ac erbyn hyn mae’n gynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio ym maes rheoleg uwch a’i heffaith ar y gallu i argraffu dyfeisiau electroneg. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu fel rhan o Ganolfan Gweithgynhyrchu Arloesol Electroneg Arwynebedd Mawr y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn WCPC.


Davide Deganello

Mae Dr Davide Deganello yn athro cydymaith yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Mae’n gweithio yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru ac mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu uwch drwy brosesau argraffu gweithredol a phrosesu ychwanegion ar gyfer storio ynni a chymwysiadau electronig a biomeddygol. Mae ei waith hefyd yn ymdrin â rheoleg hylifau cymhleth sylfaenol. Ar hyn o bryd mae Davide yn PI ar gyfer gwobr EPSRC (£450,000) ym maes cyfleusterau storio ynni graddfa fawr (EP/NO13727/1). Ymhlith ei brosiectau diweddar eraill mae grant cyntaf EPSRC ar ansefydlogrwydd arwynebau o ran y dechneg argraffu rholyn i rolyn (EP/MOO8827/1, 2016) a phrosiect Braenaru a ariannwyd gan CimLAE EPSRC ar flaendrosglwyddiad a ysgogir gan laser (SIMLIFR, 2017). Yn ddiweddar, mae Davide wedi bod yn ymchwilydd ar gyfer prosiect HaRFest (2016), prosiect cydweithredol a gydariennir gan Innovate UK ar y cyd â PragmatIC, Prifysgol Caergrawnt a CimLAE, sy’n ymchwilio i’r broses o gynhyrchu modiwlau cynaeafu ynni. Fel ymchwilydd, mae Davide hefyd wedi cael ei enwi mewn mwy na 10 prosiect, gan gynnwys prosiect a ariannwyd gan NIHR a oedd yn ymwneud â dyfeisiau diagnostig argraffedig ar gyfer sytomegalofirws dynol mewn babanod newydd-anedig. Mae gwaith ymchwil Davide wedi arwain at batentau a nifer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw.


Ben Clifford

Mae Ben Clifford yn gynorthwyydd ymchwil yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Yn ddiweddar, cyflwynodd ei thesis PhD ar ddyddodiad chwistrell erosol ar gyfer datblygu electroneg argraffedig (Prifysgol Abertawe, 2016). Prif ffocws ei waith ymchwil yw cymwysiadau dyddodiad chwistrell erosol ond mae hefyd yn cynnwys technolegau ffabrigeiddio ysgrifennu uniongyrchol, datblygu deunyddiau ac optimeiddio prosesau.


Gunter Huebner

Ers 1999, mae’r Athro Huebner wedi bod yn addysgu yn y Brifysgol Gwyddoniaeth Gymhwysol, Prifysgol Cyfryngau Stuttgart “Hochschule der Medien” (HdM) yn Stuttgart, yr Almaen.

Rhwng 2004 a 2014, ef oedd arweinydd rhaglen astudio “Technoleg Argraffu a Chyfryngau” HdM. Yn ogystal â’r ystod gyfan o dechnolegau argraffu a phrosesau argraffu, mae ei feysydd addysgu arbenigol yn cynnwys argraffu digidol, argraffu â sgrin ac argraffu gweithredol.

Yn 2006, sefydlwyd yr Athrofa Ymchwil Gymhwysol (Institut für angewandte Forschung – IAF) yn HdM. Ymgymerodd â rôl arweinydd yr IAF sy’n sefydliad ambarél o tua 30 o grwpiau ymchwil o fewn HdM. Mae ei grŵp ymchwil ei hun, sef yr “Athrofa Cymwysiadau Arloesol ar gyfer Technolegau Argraffu” (IAD), yn delio’n bennaf ag argraffu gweithredol ac argraffu llinell fain. Ymhlith ei ddatblygiadau llwyddiannus diweddar mae antena argraffedig ar gyfer cymwysiadau cerbydau modur a thechneg argraffu â sgrin ar gyfer batris ailwefradwy.

Cyn ymuno â HdM, bu’n gweithio am tua 11 mlynedd gyda’r cwmnïau AGFA Gevaert AG a DuPont de Nemours fel peiriannydd ymchwil a phroses neu arbenigwr systemau, gan gyfuno arbenigedd mecanyddol a phroses â gwybodaeth heb ei hail am y maes technolegau gwybodaeth.

Gyda’i thesis PhD ar efelychiad rhifiadol prosesau rhannu inc ym maes argraffu, enillodd deitl “Dr.-Ing” yn y Brifysgol Dechnegol yn Darmstadt yn 1991 lle’r oedd wedi ennill ei ddiploma mewn peirianneg fecanyddol yn gynharach.


Johanna Lahti

Mae gan Dr Johanna Lahti radd doethur mewn Trawsnewid Papur a Thechnoleg Pecynnu o Brifysgol Technoleg Tampere (2005). Ar hyn o bryd, mae’n Uwch Gymrawd Ymchwil ac yn Rheolwr Prosiect ar gyfer y grŵp ymchwil Trawsnewid Papur a Thechnoleg Pecynnu ym Mhrifysgol Technoleg Tampere (TUT). Dechreuodd ei gyrfa (1999) yn astudio caenau gwasgaru a’r defnydd o ronynnau lliw i wella priodweddau rhwystr. Yn 2000, dechreuodd ei hymchwil thesis doethurol ar dechnegau argraffu digidol ar gyfer deunyddiau pecynnu â haen allwthio. Ffocws y gwaith ymchwil oedd gwella natur argraffadwy arwynebau polymerig drwy drin yr arwyneb. Ers 2005, mae Dr Lahti wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect cenedlaethol a rhyngwladol. Ymhlith y meysydd ymchwil mae nifer o bynciau gwahanol sy’n ymwneud â thechnoleg papur, trawsnewid papur a thechnoleg pecynnu gan gynnwys, er enghraifft, caenu (cyd-)allwthio, caenu gwasgaru, trin arwynebau (e.e. plasma, corona, fflam), caenau tenau graddfa nano (e.e. dyddodiad plasma, ALD), is-haenau ar gyfer deunyddiau pecynnu (ffilmiau plastig, is-haenau yn seiliedig ar ffibr, deunyddiau haenedig ac ati) a thechnoleg argraffu. Mae hefyd wedi cydgysylltu prosiect FP7 mawr (PlasmaNice, 2008-2012) ar Blasma Atmosfferig ar gyfer Prosesu Arwynebau Diwydiannol Graddfa Nano. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio’n bennaf ar brosiect FP7 NanoMend (2012-2015). Nod Nanomend yw creu technolegau newydd arloesol ar gyfer dod o hyd i ddiffygion graddfa micro a nano (in-line detection), eu glanhau a’u hatgyweirio ar gyfer ffilmiau tenau a gaenir ar is-haenau ag arwynebedd mawr. Ymhlith yr enghreifftiau mae ffilmiau tenau a ddefnyddir i gynhyrchu deunyddiau pecynnu, paneli solar hyblyg ac arwyddion ac arddangosiadau digidol dan do ac awyr agored. Ers 2000, mae Dr Lahti wedi goruchwylio sawl thesis ac wedi ysgrifennu papurau, erthyglau a chyflwyniadau ar gyfer sawl cynhadledd ym maes trawsnewid papur a thechnoleg pecynnu.


Tim Claypole

Tim Claypole yw un o sylfaenwyr a chyfarwyddwyr WCPC (Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru, Prifysgol Abertawe). Mae’n aelod cyfadran o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Ymhlith ei feysydd ymchwil mae rheoli lliw, systemau gweithgynhyrchu, ansawdd, gwaith cynnal a chadw, dibynadwyedd, dyluniad arbrofol, mecaneg hylif a thermodynameg proses. Mae’n arbenigwr Prydeinig ar ISO TC130 ar safonau ar gyfer y celfyddydau graffig. Yn ogystal â graffeg a phecynnu, mae’n ymgymryd â gwaith ymchwil rhyngwladol blaenllaw ar ddefnyddio prosesau swmp-argraffu ar gyfer uwch-weithgynhyrchu ystod eang o gynhyrchion gan gynnwys nwyddau electroneg, synwyryddion ac iechyd pwynt gofal.

Tim oedd arweinydd prosiect DIPLE, a ariannwyd gan yr ERDF, a enillodd wobr Regiostars 2009 am “Ymchwil, Datblygu Technoleg ac Arloesedd”, gan adlewyrchu’r broses lwyddiannus o drosglwyddo ymchwil i’r maes diwydiant. Derbyniodd MBE am ei wasanaethau i gelfyddydau graffig a diwydiant yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2010.

Mae ei gyfraniad i’r diwydiant argraffu wedi’i gydnabod gan y diwydiant. Yn 2008, enillodd wobr Michael Bruno TAGA ac yn 2009 enillodd wobr arbennig EFTA am gyfraniad eithriadol i waith argraffu fflecsograffig. Mae ei waith ymchwil, sydd wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), y Llywodraeth a Diwydiant, wedi arwain at dros 170 o gyhoeddiadau’n ymwneud â’r maes argraffu a phynciau cysylltiedig. Yn ddiweddar, gorffennodd Grant Portffolio EPSRC mawreddog mewn “Hylifau Cymhleth ar gyfer Llifau Cymhleth”. Dim ond grwpiau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd sy’n derbyn grant o’r fath. Mae’n un o gyd-ymchwilwyr Canolfan Gweithgynhyrchu Arloesol Electroneg Arwynebedd Mawr EPSRC. Delir y wobr bwysig hon yn y DU gan Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) ar y cyd â thair Canolfan ragoriaeth arall ym maes Electroneg Argraffedig, sef Prifysgol Caergrawnt, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Manceinion.


Martti Toivakki

Ar hyn o bryd, mae Martti Toivakka yn athro llawn ac yn bennaeth y Labordy Caenu a Thrawsnewid Papur ym Mhrifysgol Åbo Akademi yn y Ffindir (www.abo.fi/lpcc). Derbyniodd ei radd doethur mewn peirianneg gemegol ym maes cemeg papur yn 1998. Mae ei grŵp ymchwil, sy’n aelod o’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Deunyddiau Gweithredol a benodwyd gan Academi’r Ffindir, yn datblygu deunyddiau gweithredol ac yn arddangos dyfeisiau ar gyfer gwybodaeth argraffedig. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys technegau caenu newydd a dulliau trin arwynebau ar gyfer cynhyrchion yn seiliedig ar ffeibr naturiol, argraffu fel dull ffabrigeiddio a defnyddio papur fel is-haen ar gyfer electroneg argraffedig. Mae’n (gyd)-awdur dros 130 o gyhoeddiadau gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodion a chynadleddau rhyngwladol.


Chris Phillips

Yn ddiweddar, mae Chris wedi cael ei benodi’n ddarlithydd peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n parhau â’i waith ymchwil gyda Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) sy’n canolbwyntio ar ddatblygu inc gweithredol gyda phwyslais ar ddeunyddiau carbon, a chymwysiadau storio ynni.


Dr Ian Mabbett

Mae Ian yn uwch ddarlithydd yn yr adran gemeg newydd yn Abertawe.

Cyn hynny, ef oedd rheolwr yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu sy’n cynnwys y ganolfan caenu gweithredol ar gyfer hyfforddiant doethurol EPSRC (COADTED2), y mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) yn un o’i phartneriaid.

Mae Ian hefyd wedi gweithio yng nghanolfan arloesedd a gwybodaeth SPECIFIC yn ymgymryd â gweithgarwch ymchwil yn cynnwys prosesau sychu, caledu a sinteru ar gyfer caenau gweithredol ym maes cynhyrchu ynni ffotofoltäig a storio ynni electrocemegol.

Mae Ian hefyd wedi cyhoeddi papurau ar sinteru inciau dargludol yn gyflym ar gyfer electroneg argraffedig ar y cyd â chydweithwyr yn WCPC.

Mae cefndir Ian yn cynnwys sychu a chaledu ymbelydrol cyflym ar gyfer caenau ac inciau ac, er mwyn astudio’r prosesau hyn, mae angen gwybodaeth arbenigol am dechnegau cyfrannol, yn enwedig technegau sbectrosgopig, dadansoddiad thermol a dadansoddiad nwy cynyrchedig.

Mae Ian wedi ennill statws CChem a CSci gyda RSC a statws CEng gydag IOM3, mae ganddo FHEA ar gyfer gweithgareddau addysgu ac mae’n llysgennad STEM gweithgar iawn.


Sarah-Jane Potts

Ar hyn o bryd, mae Sarah-Jane yn astudio ar gyfer EngD mewn Peirianneg Deunyddiau yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2015, enillodd Radd Meistr (MEng) mewn Peirianneg Dylunio Cynnyrch o Brifysgol Abertawe. Ers dechrau ei EngD, mae Sarah-Jane wedi cymryd rhan mewn nifer o fodiwlau peirianneg deunyddiau, rheoli a chemeg ac mae hefyd wedi ymgymryd ag ymchwil ar gyfer ei phrosiect ar dechnegau argraffu â sgrin ar gyfer Consortiwm icmPrint. Ar hyn o bryd, mae gwaith Sarah-Jane yn canolbwyntio ar ymchwilio i’r gydberthynas fathemategol rhwng rheoleg inc a lleoliadau paramedr argraffu ar gyfer argraffu â sgrin. Bydd hyn yn sicrhau bod modd datblygu dulliau rhagfynegol ar gyfer cynhyrchu’r priodweddau argraffu optimaidd.