Argraffu ar gyfer Cymwysiadau Gweithredol
Dyddiadau: 9 – 13 Gorffennaf 2018
Lleoliad: Campws Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Twyni Crymlyn, Abertawe SA1 8EN. Ystafell B001, Adeilad Canolog Peirianneg.
Mae’r cwrs hwn yn dwyn siaradwyr academaidd blaenllaw o Ewrop a Diwydiant ynghyd i roi cyflwyniad i electroneg argraffedig. Cynhelir yr ysgol haf ar Gampws godidog 65 erw newydd y Bae. Lleolir y Campws wrth ymyl y traeth ar y ffordd ddwyreiniol i mewn i ddinas Abertawe ac mae’n gartref i Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru sy’n rhan o’r Coleg Peirianneg. Trefnir yr ysgol haf gan Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC) ar y cyd ag icmPrint Limited, gan ddefnyddio ei labordai llawn cyfarpar.
Mae’r cwrs yn cwmpasu’r canlynol: –
- Dylunio a chymwysiadau
- Yr holl brif brosesau argraffu (fflecso, sgrin, grafur, pad, ongli a chwistrell inc)
- Inciau
- Is-haenau
- Technoleg caledu
- Technolegau nodweddu
- Sesiynau ymarferol
Mae’r wythnos yn cynnwys 3 diwrnod o theori a 2 ddiwrnod o sesiynau ymarferol yn labordai WCPC.
Ar nos Lun 9 Gorffennaf, cynhelir digwyddiad croesawu er mwyn rhoi cyfle i chi rwydweithio a chwrdd â’r unigolion eraill sy’n cymryd rhan yn yr ysgol haf.