Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Polisi Cwci

Mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru’n defnyddio cwcis anhysbys i wella’ch profiad ar ein gwefan

Mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru’n defnyddio cwcis anhysbys i wella’ch profiad ar ein gwefan.

Mae cwcis yn ffeiliau testun bychain a gedwir naill ai yng nghof eich cyfrifiadur (“cwci sesiwn”) neu ar eich gyriant caled (“cwci parhaol”) gan y gwefannau yr ydych yn ymweld â hwy.

Mae’r cwcis hyn yn cyflawni nifer o swyddogaethau ond fe’u defnyddir gan wefannau’n bennaf i’ch adnabod a chofio amdanoch.  Maent yn gwneud pori gwefannau’n haws trwy gadw’ch dewisiadau, cofio’ch cyfrineiriau, sicrhau eich bod wedi mewngofnodi o hyd a chadw eitemau yn eich basged siopa wrth i chi bori.

Mae bron pob gwefan yn defnyddio cwcis, ac ni all y rhan fwyaf o wefannau weithredu’n iawn heb ddefnyddio rhai o leiaf.  Er enghraifft, heb gwcis, byddai’n rhaid i chi fewngofnodi eto i wefannau bob tro yr oeddech am symud i dudalen newydd. A fyddai’n rhwystredig.

Rheoli’ch preifatrwydd

Gallwch wahardd neu ddileu cwcis yn y porwr. Gallai gwahardd cwcis eich atal rhag cael mynediad at rai gwasanaethau a chynnwys o www.wcpcswansea.com gan gynnwys cofrestru ar gyfer digwyddiadau.   Bydd dileu cwcis yn eich allgofnodi o sesiwn gyfredol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am wahardd a rheoli cwcis ar Popeth Am Gwcis.

Gallwch ddefnyddio’r dull pori “anhysbys (incognito)” neu “pori preifat” yn eich porwr i gyfyngu ar y mathau o gwcis sy’n cael eu gosod a sut y maent yn cael eu defnyddio i olrhain. Mae hyn yn creu sesiwn newydd, a byddwch yn ymddangos fel defnyddiwr newydd nad yw’n gysylltiedig â gwefannau eraill, er enghraifft, bydd gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn eich gweld fel defnyddiwr sydd wedi allgofnodi (oni bai eich bod yn mewngofnodi iddynt yn benodol), a bydd Google Analytics yn eich gweld fel ymwelydd newydd.

Google Analytics

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fonitro perfformiad ein gwefan, a phatrymau defnyddio. Nid ydym yn cysylltu ystadegau a gesglir gan Google Analytics â gwybodaeth a allai adnabod unigolyn yn bersonol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am bolisi preifatrwydd Google Analytics a sut i atal monitro’ch defnydd.