Rhaglen Ymchwil a Phartneriaeth
Cefnogi datblygiad argraffu fel proses gweithgynhyrchu uwch drwy gymhwyso’r wybodaeth wyddonol sy’n eu tanategu a thrwy hyrwyddo arfer gorau yn y diwydiant. Mae cwmpas Rhaglen Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn cynnwys yr holl brosesau argraffu a’u technolegau cysylltiedig ar gyfer pob maes, gan gynnwys cyhoeddi, pecynnu, diogelwch, ffabrigau, cerameg, addurno cynhyrchion, electroneg polymer, technoleg y gellir ei gwisgo, bwyd a bioddeunyddiau.
Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru
Drwy fod yn Aelod Cysylltiol, rydych yn datgan i’ch cyflenwyr a’ch cwsmeriaid eich bod chi a’ch cwmni yn:
· Gweithredu ar flaen y gad ym maes datblygu prosesau a chynhyrchion
· Gwella cynhyrchion drwy ddealltwriaeth well o brosesau a deunyddiau crai
· Defnyddio arferion gorau ar sail egwyddorion gwyddonol cadarn
· Defnyddio adnoddau arbenigol
· Annog rhagoriaeth drwy’r gadwyn gyflenwi
· Cynhyrchu nwyddau i’r safonau uchaf
· Meithrin ac yn cefnogi arloesedd
Caiff pob cwmni cysylltiol wahoddiad i anfon cynrychiolydd am ddim i Gynhadledd Dechnegol Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru a mynediad i weithdai a drefnir yn ôl y galw.
Manteision Aelodaeth Gysylltiol
· Mae aelodau cysylltiol Canolfan Argraffu a Haenu Cymru wedi ymwneud â phrosiectau sydd wedi gwella eu sefyllfa yn y farchnad a’u cynnyrch
· Bydd digwyddiadau rhwydweithio’n rhoi cyfle i chi gwrdd â chwsmeriaid a chyflenwyr
· Bydd parch tuag at eich cwmni’n cynyddu o ganlyniad i ymwneud ag ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang
· Mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru’n gweithredu fel arbenigwr mewn safonau rhyngwladol ac Ewropeaidd, felly gall ddarparu cyfrwng i chi fynegi’ch gofynion a’ch pryderon.
Nodweddion Aelodaeth Gysylltiol
· Gweminarau technoleg rheolaidd ar y prosiectau cyfredol i aelodau yn unig
· Cynhadledd ac Arddangosfa Dechnegol Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru
· Llyfrgell o astudiaethau ac adroddiadau ymchwil a datblygu ar gael i aelodau yn unig
· Cyfle i chi a’ch cwmni gyflwyno gweminarau technegol mynediad agored
· Llinell gyngor ar gyfer aelodau cysylltiol
· Canllawiau, adroddiadau a phosteri i’w lawrlwytho am ddim
· Cylchlythyron sy’n cynnwys y diweddaraf am wyddoniaeth, technoleg ac arferion gorau
· Prisiau is am wasanaethau, cyrsiau, gweithdai ayb
· Tystysgrif aelodaeth gysylltiol a dolenni aelodaeth gysylltiol ar eich gwefan
Dod yn gydymaith