Ein Gweithwyr
Dr James Claypole
Cynorthwyydd Ymchwil
Derbyniodd James radd mewn Peirianneg Sifil o Brifysgol Caerdydd. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe ym maes uwch reoleg deunyddiau argraffadwy. Gweithiodd fel intern yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru wrth astudio am ei radd gyntaf, ac mae bellach yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe, gan weithio ar uwch reoleg a’i heffaith ar y gallu i argraffu electroneg, wedi’i noddi fel rhan o Ganolfan yr EPSRC er Gweithgynhyrchu Arloesol mewn Electroneg Arwynebedd Mawr sy’n seiliedig yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru.