Manteisio ar ein Harbenigedd
Datrys problemau
Gallwn eich helpu i nodi a chywiro materion sy’n ymwneud â’ch proses weithgynhyrchu a’ch cadwyn gyflenwi.
Gallwn gynnig cyngor neu gymorth i’ch cwmni, yn ôl eich angen, gan roi’r cyfle ichi fanteisio ar arbenigedd nad yw gennych, efallai, yn fewnol, yn ogystal â chyfle i fanteisio ar ein cyfleusterau.
Gwaith ymchwil cydweithredol
Rydym bob amser yn barod i weithio gyda byd diwydiant a chydweithredu ar brosiectau ymchwil sy’n cynnwys un partner neu ragor, ac sy’n creu budd i bawb sy’n rhan o’r gwaith.*
(*Mae amcanion prosiectau a’u manteision posibl yn cael eu diffinio’n glir o’r cychwyn ac mae pob partner yn cyfrannu er mwyn sicrhau canlyniad llwyddiannus. Mewn unrhyw brosiect, rydym yn annog proses o drosglwyddo technoleg a chyfnewid syniadau gan fod hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau technegol pawb sy’n rhan o’r gwaith. Gall prosiectau ymchwil fod yn rhai ‘awyr las’ neu ddiwydiannol, a gallant gynnwys cymorth grant).
Rhaglen Ymchwil a Phartner Cyswllt
Mae’r Ganolfan yn cynnal rhaglen gyswllt i bartneriaid sy’n cynnig cyfleoedd i fod yn rhan o weminarau a chynadleddau, a gostyngiadau ar weithgareddau a chymorth Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru.
Os hoffech wybod mwy am sut gallwn eich helpu chi neu eich busnes, da chi cysylltwch â ni