Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


ARPLAE

Bydd prosiect Advanced Rheology for Printing Large Area Electronics (ARPLAE) yn mynd i’r afael â rhwystrau rheolegol sylfaenol i sicrhau nodweddion cydraniad uchel mewn prosesau argraffu cyswllt cynnyrch uchel.

Mae angen gwell dealltwriaeth o’r agweddau rheolegol ar y prosesau hyn er mwyn sefydlu sylfaen gadarn i ragweld a rheoli’n well. Mae’r prosiect hwn yn rhan o thema Proses Weithgynhyrchu Uwch yn rhaglen dechnegol y Ganolfan.

Mae Cyfnod 1 y prosiect yn cynnwys 6 mis o astudiaeth gwmpasu, a bydd y cyfnod dilynol yn 18 mis o raglen dechnegol. Ei amcanion cyffredinol yw:

·         gwella’r ddealltwriaeth o fformiwleiddio inc swyddogaethol a sut mae’n rhyngweithio â chludydd y ddelwedd a’r is-haen ar mwyn gwella perfformiad argraffu cydraniad uchel;

·         datblygu technegau sy’n wyddonol drwyadl i ganfod nodweddion rheolegol allweddol hylifau mewn llifoedd croeswasgu ac ymestynnol sy’n anffurfio ar raddfa gyflym er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posib;

·         sefydlu metrig(au) sy’n berthnasol i gyflawni (i) a (ii) uchod.

Bydd datblygu metrigau perfformiad y mae modd eu defnyddio yn y diwydiant yn seiliedig ar fesuriadau trwyadl a sylfaenol, a’u dadansoddi.

Bydd y prosiect hefyd yn asesu dulliau rheometrig i ganfod nodweddion systemau inc swyddogaethol sy’n rheolegol gymhleth. Bydd y dulliau hyn yn seiliedig ar ffurfiau wedi’u haddasu o’r hyn a ddefnyddir mewn meysydd eraill.