Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Gwyddonwyr yn defnyddio technoleg argraffu i ddatblygu synwyryddion biofeddygol

Mae gwyddonwyr o Gymru yn bwriadu defnyddio’r technolegau argraffu diweddaraf i ddatblygu biosynhwyrydd isel ei gost a all roi diagnosis o gyflyrau iechyd.

Y nod yw gosod gwrthgyrff byw mewn inc addas a fyddai’n cael ei argraffu wedyn ar is-haen neu ddeunydd cydnaws i ffurfio synhwyrydd tafladwy, y gellir ei fasgynhyrchu ar gost isel.

Peth cyffredin yw defnyddio profion ar sail gwrthgyrff i ganfod cyflyrau meddygol penodol, ond mae’r defnydd o’r profion hyn yn gyfyngedig am fod angen eu cynnal mewn labordai gan dechnegwyr medrus iawn, sy’n gostus ac yn cymryd amser.

Mae araeau o wrthgyrff wedi’u hargraffu, ar y llaw arall, yn cyflymu’r broses brofi ac yn lleihau’r arbenigedd a chymhlethdod yr offer sydd eu hangen – gan greu’r posibilrwydd o sganwyr electronig llaw a diagnosis llawer cyflymach.

Mae’n caniatáu i’r agwedd hon ar ofal cleifion gael ei symud o’r ysbyty neu’r labordy i feddygfa’r meddyg teulu, gan ryddhau adnoddau drud yr ysbyty at weithgareddau eraill. Gall hefyd fod yn werthfawr iawn o’i ddefnyddio ym maes sefyllfaoedd dyngarol brys ac mewn ardaloedd anghysbell.

Caiff y prosiect ei gefnogi gan Arbenigedd Academaidd i Fusnesau(A4B) Llywodraeth Cymru, sef menter a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd i ysgogi ac annog sefydliadau addysg a diwydiant i gydweithio.

Llun: Yr Athro Tim Claypole (chwith) a Dr Chris Phillips, Uwch Swyddog Ymchwil, yn cymharu arae argraffedig gyda phlât aml-ffynnon a ddefnyddir ar hyn o bryd.

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: “Mae A4B yn cefnogi cyfleoedd i fanteisio’n fasnachol ar syniadau newydd yng Nghymru, ac yn yr achos hwn ym maes twf uchel diagnosteg feddygol.

“Mae hon yn enghraifft dda o sut gallwn sicrhau y caiff ein prifysgolion yr effaith economaidd fwyaf drwy ddwyn ynghyd yr arbenigedd pennaf sydd yn ein canolfannau ymchwil a’r arbenigedd technolegol sydd mewn diwydiant.”

Caiff y cydweithio diwydiannol ei arwain gan Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru, Prifysgol Abertawe, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Gwyddorau Bywyd a diwydiant.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Micropharm, sy’n cynhyrchu gwrthgyrff yn ei safle yn Nghastellnewydd Emlyn, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac Innovia Films o Cumbria, a fydd yn darparu cyngor ar y dewis o is-haenau a deunyddiau.

Meddai’r Athro Tim Claypole, sy’n arwain yr ymchwil, fod y prosiect ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol, ac yn gam pwysig ymlaen ym maes argraffu synwyryddion biofeddygol.

“Mae’n adeiladu ar ymchwil flaenorol i argraffu deunyddiau swyddogaethol, ond y mae’n gymhwysiad cwbl newydd na fyddai’n mynd rhagddo heb gymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

“Argraffu swmp hefyd yw’r dull mwyaf ymarferol i sicrhau technoleg synwyryddion tafladwy cost isel. Bydd hyn yn mynd â datblygiadau arloesol o’r fainc i erchwyn y gwely ac yn datblygu’r offer a’r technolegau i symud y broses o roi diagnosis yn ei blaen, gan ddod â hi i’r feddygfa a’r cartref.”

Bydd y ffocws cychwynnol ar ddatblygu dyfais i brofi’r cysyniad a fydd yn creu cyfleoedd i ddatblygu synwyryddion gwrthgyrff i roi diagnosis o amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd.