14eg Cynhadledd Dechnegol Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru
Dyddiad: 5 a 6 Tachwedd 2018
Man Cynnal: Village Hotel Abertawe, Heol Langdon, Abertawe, SA1 8QY
Bydd y gynhadledd yn gyfle i gael golwg ar ymchwil ddiweddaraf Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru ym maes technoleg argraffu, trafod y canfyddiadau â’r ymchwilwyr, a rhwydweithio â chynadleddwyr sydd o’r un anian â chi. Bydd pob cyflwyniad yn bapur technegol sy’n seiliedig ar y canlyniadau a’r dadansoddiad diweddaraf sy’n deillio o arbrofion rheoledig a modelau rhifyddol. Darperir y cyflwyniadau gan wyddonwyr profiadol, darlithwyr adnabyddus a myfyrwyr ymchwil.
Eleni, rydym wedi gwahodd Thomas Kolbusch o Coatema, Martin Krebs o VARTA Microbattery a Carmen Freire o Sefydliad Deunyddiau CICECO-Aveiro i’n hannerch.
Cynhelir y gynhadledd gan Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru ar y cyd ag icmPrint Ltd. Mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn ganolfan ymchwil fyd-enwog sy’n arbenigo mewn ymestyn dealltwriaeth a chynhyrchiant ym mhob agwedd ar argraffu a chaenu. Mae’r Ganolfan yn gwella dealltwriaeth o brosesau argraffu a chaenu, yn manteisio ar ddulliau gweithgynhyrchu newydd gan ddefnyddio argraffu, ac yn cymhwyso’i chanfyddiadau gwyddonol er budd ei phartneriaid diwydiannol byd-eang. Mae’r Ganolfan, sydd â phrofiad helaeth o argraffu pecynnau a graffeg, wedi adeiladu ar yr wybodaeth hon gan ddod yn ganolfan ar gyfer deunyddiau gweithredol, electroneg blastig a bio-argraffu.
Y costau yn syml:
Y Cyntaf i’r Felin (ar gael tan 3 Medi 2018) | £400 + TAW |
Cyfradd Cynadleddwyr ar ôl 3 Medi 2018 | £450 + TAW |
Caiff Cwmnïau Cysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru hawlio un lle di-dâl yn y gynhadledd a chyfradd ostyngol ar gyfer cynadleddwyr ychwanegol (rhaid i’r cynadleddwyr gofrestru a thalu trwy’r cwmni cysylltiol) | £300 + TAW |
Bwrdd arddangos – £250 + TAW Ynghyd â chost cynadleddwr, sef £450 + TAW |
£700 + TAW |
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/wcpc-14th-annual-conference-5th-6th-november-2018-tickets-45018658018