Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


STEELPV

Sustainable Steels for Direct Deposition of Photovoltaic Solar Cells

Prif amcan prosiect STEELPV yw gwneud dur strwythurol ‘garw’ yn swyddogaethol fel is-haenau uniongyrchol ar gyfer dyfeisiau ffotofoltaidd (PV) i’w defnyddio fel PV wedi’u Hintegreiddio yn yr Adeilad (BIPVs).

Mae’r prosiect wedi’i rannu i’r is-amcanion canlynol:

  • dethol is-haenau dur gan roi ystyriaeth i’r angen i gystadlu ag is-haenau ffotofoltaidd eraill fel gwydr, silicon a pholymerau;
  • datblygu triniaethau arwyneb arloesol a haenau canolig ar lefel labordy er mwyn i’r is-haenau dur a gaiff eu dethol fod yn addas ar gyfer prosesau dyddodi ffotofoltaidd ffilm denau;
  • gwerthuso gwahanol ddulliau diogelu ochr gefn y dur (e.e. caenau organig ac anorganig) a phrosesau mewngapsiwleiddio’r system ‘caen ochr gefn / dur / PV’;
  • cynyddu lefel yr atebion dur / haenau canolig a chreu cynnyrch arddangos gan gynnwys paneli gwastad 30cm x 30cm, dalennau hyblyg 18cm x 180cm, a choiliau 30cm o led gan ddefnyddio gwahanol dechnolegau dyddodi y gellid eu hintegreiddio i linell caenu dur;
  • datblygu safonau a phrotocolau arfer orau ar gyfer cynnyrch dur / haenau canolig; ymgysylltu â phwyllgorau safoni a datblygu manylebau ar gyfer dur ‘gradd solar’.

Bydd y technolegau a ddatblygir yn STEELPV yn addas naill ar gyfer cynnyrch terfynol hyblyg (a ddefnyddir i roi dros strwythurau cymhleth geometrig sydd eisoes yn bodoli) neu led-anhyblyg (a ddefnyddir fel rhan fecanyddol o’r strwythur).