Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Screen Printing of Functional Materials and Sensors

Mae argraffu sgrin yn broses argraffu hynod amlbwrpas, a gall greu amrywiaeth o gynnyrch gan gynnwys erialau, synwyryddion a byrddau cylched argraffedig, yn ogystal â graffeg. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar effaith amryw baramedrau’r broses ar amrywiaeth o inciau a sgriniau er mwyn datblygu dulliau rhagweladwy a sefydlu arferion gorau.

Mae modd rhannu’r amcanion yn dair prif ran:

i.  canfod sut mae paramedrau’r broses argraffu yn rhyngweithio â chydraniad, garwedd arwyneb a chofrestriad amrywiaeth o inciau cymhleth ar amrywiaeth o sgriniau.

ii.  sefydlu effaith y broses argraffu sgrin ar gyfeiriadedd ac aliniad gronynnau yn y print.

iii.  sefydlu effaith trin a gelio ar y ffilmiau argraffedig, yn arbennig ar lithro, garwedd arwyneb a chyfeiriadedd gronynnau.

Er mai defnyddio inciau swyddogaethol fydd prif ffocws y prosiect, bydd hefyd y ceisio bod o fudd i gymwysiadau traddodiadol, fel inciau graffeg, drwy wella ansawdd y broses a pha mor ragweladwy ydyw.