Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


High Volume Printing of Functional Materials, with Special Reference to Flexography and Smart Packaging

Er mwyn ehangu’r ffin wybodaeth bresennol a throi hyn yn welliannau ar y wasg, mae icmPrint (sefydliad ymchwil a thechnoleg annibynnol, nid-er-elw) yn noddi Doethuriaeth Beirianneg EPSRC 4 blynedd yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru er mwyn mynd â’r ddealltwriaeth o fflecsograffeg i’r lefel nesaf.

Dyma amcanion y prosiect hwn, drwy arbrofion ymarferol yn y labordy ac ar weisg cynhyrchu:

·         Canfod effaith gwahanol dechnolegau trin inc

·         Canfod y potensial fflecsograffeg i swmp-argraffu pecynnau clyfar ac electroneg arwynebedd mawr

·         Archwilio ffyrdd i gyfuno argraffu a’r cyfryngau newydd

·         Cynyddu’r gamwt lliw

·         Canfod argraffu palet sefydlog optimwm

·         Argraffu deunyddiau swyddogaethol fel synwyryddion a bio-inciau

·         Gwella rhagweladwyedd, cysondeb a chofrestru (yr elfen allweddol i sicrhau atgynhyrchu lliw yn gywir)

·         Datblygu dulliau rhagweladwy