High Volume Printing of Functional Materials, with Special Reference to Flexography and Smart Packaging
Er mwyn ehangu’r ffin wybodaeth bresennol a throi hyn yn welliannau ar y wasg, mae icmPrint (sefydliad ymchwil a thechnoleg annibynnol, nid-er-elw) yn noddi Doethuriaeth Beirianneg EPSRC 4 blynedd yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru er mwyn mynd â’r ddealltwriaeth o fflecsograffeg i’r lefel nesaf.
Dyma amcanion y prosiect hwn, drwy arbrofion ymarferol yn y labordy ac ar weisg cynhyrchu:
· Canfod effaith gwahanol dechnolegau trin inc
· Canfod y potensial fflecsograffeg i swmp-argraffu pecynnau clyfar ac electroneg arwynebedd mawr
· Archwilio ffyrdd i gyfuno argraffu a’r cyfryngau newydd
· Cynyddu’r gamwt lliw
· Canfod argraffu palet sefydlog optimwm
· Argraffu deunyddiau swyddogaethol fel synwyryddion a bio-inciau
· Gwella rhagweladwyedd, cysondeb a chofrestru (yr elfen allweddol i sicrhau atgynhyrchu lliw yn gywir)
· Datblygu dulliau rhagweladwy