Flexible Printed Electronic Emissive Display Technology
Mae technoleg LED organig wedi symud ymlaen yn sylweddol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a’i phrif farchnad yw sgriniau picseli teledu a ffôn symudol. Ond mae technoleg arall hefyd yn magu stêm fel dull a allai fod yn rhatach – ffosfforau anorganig.
Caiff ffosfforau anorganig eu gyrru gan ddefnyddio dull chwistrellu gwefr anuniongyrchol yn hytrach na chyswllt (cylched confensiynol) uniongyrchol. Mae’r ffosfforau yn rhatach, ac wedi’u gwneud o ddeunyddiau symlach, helaethach. Maent hefyd yn ymdopi’n well â ffactorau amgylcheddol fel gwlybaniaeth a fyddai’n amharu ar berfformiad ar ffosffor OLED.
Er hyn, mae sawl her yn codi wrth ddefnyddio ffosfforau anorganig. Y gyntaf yw’r diffyg presennol o ffosffor coch perfformiad uchel a fydd yn gweithio yn yr un amodau a’r rhai glas a gwyrdd. Yr ail yw gwella effeithlonrwydd allyriadau er mwyn lleihau’r foltedd gyrru sydd ei angen. Yn y pen draw, mae hyn yn lleihau’r ymyriant a gynhyrchir.