Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Elite Sport as a Test Arena for Wearable Technology 

Ym maes chwaraeon elît, lle gall y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant fod yn fach iawn, gallai’r modd i reoli tymheredd y cyhyrau a’r corff roi mantais allweddol i’r athletwr. Dangosodd Sargeant, 1987, am bob 1°C o gynnydd yn nhymheredd cyhyr y goes, ceir 4% o gynnydd yn allbwn pŵer brig (PPO) y goes, ac am bob 1°C o ostyngiad, ceir 3% o ostyngiad yn PPO y goes. Mae’r gallu i gynnal tymheredd cyhyrau ar ôl cynhesu, yn ystod cyfnodau o anactifedd neu mewn amgylcheddau oer felly yn hanfodol.

Drwy gydweithio â’r gwyddonydd chwaraeon adnabyddus, yr Athro L. Kilduff, a’r ganolfan ymchwil argraffu flaenllaw – Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru – nod y prosiect hwn yw datblygu gwresogydd argraffedig, gwisgadwy, pŵer isel, hyblyg gan ddefnyddio graffen swyddogaethol (Haydale Ltd) a phrofi, drwy optimeiddio safle a thymheredd y gwresogyddion hyn, y gallwn ddylunio a chreu cynnyrch a all wella perfformiad chwaraeon yn well nag unrhyw dechnolegau eraill sy’n bodoli.