Dargludyddion Tryloyw
Mae’r prosiect hwn yn ceisio creu dyddodion argraffedig, dargludol ar is-haenau gwydr sydd â’r nesaf peth i ddim o ôl-troed gweladwy.
Diben y gwaith hwn yw ceisio atebion gwahanol i systemau presennol sy’n dryloyw, yn dargludo trydan ac yn seiliedig ar wydr.
Caiff sawl math o broses argraffu ei ddefnyddio yn y gwaith hwn ar gyfer dyddodi amryw ficro a nanoddeunyddiau er mwyn ceisio cyflawni nodau hirdymor y maes hwn.