Advanced Manufacture through Printing of Demonstrators based on Functionalised Nanomaterials
Ffocws y prosiect yw archwilio’r defnydd o nanoddeunyddiau carbon, gan gynnwys nanodiwbiau a graffen, mewn electroneg argraffedig a chreu esiamplau i arddangos y technolegau.
Ymchwilir hefyd i effaith amryw grwpiau swyddogaethol, gwahanol ffurfiau o nanoddeunyddiau carbon a deunyddiau hybrid.
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu a nodweddu inciau ymestynadwy dargludol i’w defnyddio mewn electroneg i’w gwisgo. Addawol yw canlyniadau’r arbrofion cychwynnol – yn arbennig yn achos y deunyddiau hybrid – a’r cam nesaf yw archwilio nodweddion llwytho cylchol yr inciau a fyddai’n atgynhyrchu eu defnydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd go iawn.