A new concept for advanced large-scale energy storage: secondary batteries with seawater as open self-replenishing cathode
Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan EPSRC (EP/N013727/1) ac mae’n ddull newydd ym maes batrïau sodiwm-ion lle caiff dŵr môr ei ddefnyddio yn ffynhonnell sodiwm mewn cell batri/tanwydd hybrid.
Bydd y prosiect yn optimeiddio’r deunyddiau a dyluniad y gell fel bod modd datblygu’r dechnoleg i gyrraedd y targed yn y pen draw, sef ffermydd storio ynni rhannol-suddedig ar raddfa ganolig/mawr. Dylai’r rhain ddarparu storfa cyfnod-hir a dadwefriad aml, dibynadwy, er mwyn lefelu llwyth, dilyn ffynhonnell ac oedi’r dosbarthu ar gyfer ffynonellau ynni adnewyddadwy heddiw.