Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Print FM

Trosolwg o’r Prosiect

Roedd Argraffu Deunyddiau Swyddogaethol (PrintFM) yn un o brosiectau’r Ganolfan Trosglwyddo Gwybodaeth a sefydlwyd i gynorthwyo’r diwydiant yng Nghymru i fanteisio ar ddefnyddio argraffu fel proses weithgynhyrchu i greu cynnyrch technoleg uwch a gwerth ychwanegol uchel.

Rhagwelir y bydd argraffu fel dull i weithgynhyrchu cynnyrch swyddogaethol yn farchnad gwerth 55 biliwn o ddoleri erbyn 2020; mae’r adran hon o’r diwydiant sy’n tyfu’n gyflym, felly, yn destun llawer o ymchwil ledled y byd. Ond mae’r dechnoleg uwch a gwerth ychwanegol uchel y mae’r cynhyrchu’n galw amdano yn sylweddol uwch nag ar gyfer argraffu graffeg.

Er mwyn i Gymru adeiladu ar ei chryfderau yn y diwydiant argraffu a sicrhau ei bod yn ganolfan weithgynhyrchu ar gyfer electroneg argraffu, mae ar gwmnïau yng Nghymru angen cymorth gan academia i leihau risg a datblygu technegau cyn iddynt fuddsoddi ar raddfa fawr.

Drwy’r seminarau a dulliau lledaenu gwybodaeth eraill, roedd y prosiect yn cynnig platfform i godi ymwybyddiaeth ymysg cwmnïau yng Nghymru o sut gallent ychwanegu gwerth i’w busnes drwy gynnwys cynnyrch swyddogaethol yn eu ffrydiau gweithgynhyrchu yn ogystal â rhoi’r cyfle iddynt rwydweithio ag aelodau diwydiant byd-eang.

Yn ystod y prosiect, bu’r tîm yn gweithio gyda chwmnïau partner i greu arddangoswyr a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i greu cynnyrch newydd sy’n defnyddio deunyddiau swyddogaethol. Golygai hyn fod y cwmnïau gam ar y blaen yn dechnolegol o gymharu â chwmnïau sy’n cystadlu â nhw yn Ewrop.

Ariannwyd PrintFM gan raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) Llywodraeth Cymru.


Manylion y Prosiect

Hyd: 2009-2012
Arweinydd y Prosiect: Dr Simon Hamblyn