GAIM
Trosolwg o’r Prosiect
Ym mhrosiect Graphic Arts in Manufacture (GAIM), dygwyd ynghyd arbenigedd yn y diwydiannau creadigol gan ystyried y potensial sydd i argraffu ym maes gweithgynhyrchu.
Ar sail tair thema – graffeg, addurno cynnyrch a ffabrigau – cynhaliodd y prosiect gyfres o weithdai i ymgysylltu â phartneriaid yn y diwydiant ac academia er mwyn gwneud defnydd o argraffu ar gyfer cynnyrch newydd, nodi anawsterau ac atebion posib, yn ogystal â’r anghenion o ran ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Arweiniodd y gweithdai at ryw 30 o brosiectau ar y cyd. Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru o dan raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B).
Partneriaid y Prosiect
Roedd prosiect GAIM yn gonsortiwm o 5 grŵp ymchwil o blith sefydliadau yng Nghymru gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a rhaglen A4B:
Manylion y Prosiect
Hyd: 2009-2011
Arweinydd y Prosiect: Dr Simon Hamblyn