Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


DIPLE

Trosolwg o’r Prosiect

Gan mai argraffu yw un o sectorau gweithgynhyrchu mwyaf Ewrop, ac yn sbardun economaidd sylweddol ac yn ddiwydiant mawr yng Nghymru, mae gwir angen i fusnesau yng Nghymru fod ar flaen y gad o ran arloesi a bod yn rhan o’r gwaith ymchwil a datblygu, er mwyn gallu creu sector cynaliadwy, sgiliau uwch, i barhau i ddatblygu swyddi a’r economi.

Bu i brosiect DIPLE helpu busnesau bach a chanolig yn y diwydiant argraffu a chaenu yng Nghymru fod yn fwy cystadleuol drwy roi arferion gorau ar waith yn ogystal â datblygu cynnyrch newydd o ansawdd uchel drwy ffyrdd newydd o ddefnyddio argraffu.

Ariannwyd y prosiect gan yr ERDF a’r nod oedd cau’r bwlch rhwng academia a diwydiant. Ei brif amcanion oedd annog a helpu cwmnïau yng Nghymru i arloesi, creu technolegau newydd i’r diwydiant a hybu defnydd ehangach o dechnoleg lân gan leihau’r defnydd o adnoddau naturiol.

Roedd DIPLE, sydd yn acronym o Digital, Industrial, Packaging, Lean & Environmental, yn targedu meysydd penodol o’r diwydiant er mwyn cynyddu ei effaith drwy greu astudiaethau achos sy’n dangos yr arfer orau i wella’r modd y caiff gwybodaeth ei throsglwyddo ymysg busnesau.

Nod DIPLE oedd helpu busnesau yng Nghymru i fod yn fwy cystadleuol, gwella ansawdd cynhyrchu a lleihau gwastraff ac allyriadau er mwyn gwella’r amgylchedd. Roedd y prosiect hefyd yn ceisio sicrhau bod cwmnïau’n ymwybodol o’r cyfleoedd i arloesi yn eu sector – o becynnu clyfar, i dechnolegau biofeddygol, i electroneg wedi’i hargraffu. Cyflawnwyd hyn gan y tîm drwy:

·         ddarparu technolegau newydd i’r diwydiant

·         helpu i gefnogi’r cwmnïau argraffu diwydiannol a digidol gwerth ychwanegol uchel newydd

·         cefnogi’r arfer o drosglwyddo gwybodaeth yn y diwydiant

·         ysgrifennu astudiaethau achos i ddangos sut i ddatblygu a gwella busnesau yn y sector argraffu

·         hybu’r defnydd ehangach o dechnolegau glân a bod yn well i’r amgylchedd

Rhwng mis Ionawr 2004 a mis Ebrill 2008, cynhaliwyd rhagor na 118 o brosiectau ar y cyd rhwng cwmnïau partner, gan arwain at gynnydd sylweddol mewn trosiant a diogelu 170 o swyddi.

Enillodd y prosiect gategori Ymchwil, Datblygu Technolegol ac Arloesi yng ngwobrau RegioStars 2009.


Manylion y Prosiect

Hyd: 2004-2008
Arweinydd y Prosiect: Dr Simon Hamblyn