Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Characterisation of Functional Inks

Trosolwg o’r Prosiect

Ariannwyd prosiect Characterisation of Functional Inks gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B). Fel rhan o’r prosiect 12 mis, cymhwyswyd technegau nodweddu rheolegol uwch ar gyfer inciau argraffu swyddogaethol. Drwy gael gwell dealltwriaeth o ymddygiad a nodweddion yr hylifau amlwedd cymhleth hyn, mae modd sicrhau gwell rheolaeth a pherfformiad y mae modd ei ragweld.

Gan gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant, bu’r prosiect yn ymchwilio i nodweddion sychu yr inciau drwy reoleg swmp ac arwyneb a phroffiliau ASII. Ymchwiliwyd hefyd i ffenomenau trosglwyddo wrth i is-haenau inc ryngweithio a sut mae amlffilamentau yn ffurfio wrth i blatiau argraffu wahanu’n  ymestynnol. Maes arall yr ymchwiliwyd iddo oedd cyfuno gludedd croeswasgu ac ymestynnol ar y cyd.

Meysydd ymchwil o arloesedd ar hyn o bryd yw ymchwilio i reoleg croeswasgu megis fisgo-elastigedd, thicstropedd ac ymddygiad teneuo croeswasgu. Mae hefyd y gallu i ymchwilio i ludedd ymestynnol lle mae’r hylif wedi’i gynnwys rhwng dau blât paralel, a chaiff y platiau wedyn eu tynnu oddi wrth ei gilydd i fonitro’r modd y mae’r ffilament yn ffurfio a thorri. Hyd yma, nid yw’r ddau wedi’u cyfuno, ac felly mae hyn yn gysyniad pwysig i’w ystyried o ran inciau argraffu. Yn ystod y broses argraffu, caiff inciau eu croeswasgu yn gyntaf, a gwahaniad ymestynnol wedyn yw’r trosglwyddiad terfynol. Mae maint y croeswasgu a chyflymder y gwahanu yn wahanol ar gyfer prosesau gwahanol, ond y maent yn bresennol ym mhob un o’r prif broses argraffu.

Prynwyd offer newydd ar gyfer y prosiect hwn i alluogi’r tîm i ddatblygu’r gwaith o nodweddu inciau argraffu swyddogaethol.

Caiff y Formulaction Horus ASII ei ddefnyddio i ddadansoddi inc yn sychu. Caiff y laser un donfedd ei lewyrchu ar arwyneb yr inc i greu patrwm brith. Wrth i ronynnau a thoddydd yn yr inc symud, mae’r patrwm brith yn newid, a chaiff y newid ei fonitro a chaiff cyfradd y newid ei chofnodi yn ffactor hylifedd. Wrth i’r inc sychu, mae’r symud a’r ffactor hylifedd yn lleihau, a gwelir newidiadau nodedig ar amryw bwyntiau o wlyb, i sych-gyffwrdd, i gwbl sych.

Defnyddiwyd camera cyflymder uchel Photron Mini UX100 ynghyd â’r rheomedr ymestynnol presennol a addaswyd hefyd i ymchwilio i sut mae is-haenau inc yn rhyngweithio a sut mae amlffilamentau yn ffurfio. Defnydd pwysig arall o’r camera cyflymder uchel yw ymchwilio i reomedreg croeswasgu ac ymestynnol cyfunol. Er mwyn mesur hyn, mae angen rheomedr arbennig ac felly defnyddiodd y tîm y Malvern Kinexus Pro. Mae gan y rheomedr y gallu i gynnal rheoleg croeswasgu hynod fanwl-gywir ac mae hefyd iddo allu fertigol cryf gyda rheolaeth dros gyflymder a grym y gwahanu. Mae cyfuno’r Kinexus Pro a’r Mini UX100 yn rhoi inni’r gallu i groeswasgu’r inc a chynnal dadansoddiad ymestynnol ar unwaith gan ail-greu’r modd y caiff yr inc ei drin yn ystod y prosesau argraffu.


Gwasanaethau Sydd ar Gael Drwy’r Prosiect Hwn

Dadansoddi Ffilm wrth iddi Ffurfio a Sychu

Gan ddefnyddio system Formulaction Horus ASII, gallwn nodweddu’r camau sydd wrth i ffilm ffurfio a sychu ar inciau ar draws yr holl brosesau argraffu. Gallwn ddefnyddio unrhyw rai o’r amryw offer argraffu sydd ar gael yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru i greu samplau i’w dadansoddi, ond yn aml, prawf tynnu i lawr syml o dan fesuriad ASII yw’r dull mwyaf priodol o baratoi’r sampl.

Gan ddefnyddio technegau a ddatblygwyd o dan brosiect Characterisation of Functional Inks A4B, caiff a samplau a gaiff eu creu eu mesur gan ddefnyddio system laser monocrom i ddadansoddi symudiad gronynnau oddi mewn i’r sampl.

Wrth i’r inc sychu ac wrth i ffilm ffurfio, mae proffiliau nodweddiadol yn hylifedd yr inc yn datgelu nodweddion pwysig megis yr amser hyd nes ei fod yn sych-gyffwrdd a hyd nes ei fod yn gwbl sych, neu amser agored. Er enghraifft, mae modd defnyddio’r system i gynyddu cynhyrchiant, gan fod modd rheoli tymheredd y samplau. Mae modd mesur yr amser hyd nes bod yr inc yn gwbl sych ar dymheredd sychu’r broses, gan roi’r hyder i gynyddu’r cyflymder cynhyrchu neu’r potensial i leihau’r tymheredd sychu gan leihau’r defnydd o ynni.

Mae llawer o gymwysiadau eraill y gellir eu gwneud o ffurfio inc ac argraffu. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Dr David Beynon

Mesur Rheolegol Uwch

Gall Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru gynnig amrywiaeth o ddulliau profi rheolegol, ac ychwanegwyd at hyn gyda chymorth prosiect Characterisation of Functional Inks A4B.

Cynigwn brofion rheoleg croeswasgu hynod fanwl-gywir gan ddefnyddio technegau nodweddu safonol ac uwch megis proffiliau gludedd croeswasgu a phrofion osgiladu. Ac ychwanegwyd at hyn gyda’r Rheomedr Malvern Kinexus Pro newydd. O gyfuno’r rheomedr hwn â delweddu camera cyflymder uchel, mae modd inni roi croeswasgiad i’r inc gyda rheoleg ymestynnol yr inc yn y cyflwr croeswasgedig.

Mae mesur yn y ffordd hon yn cyd-fynd yn agos â’r modd y caiff inciau eu trin yn y broses argraffu, lle caiff yr inc ei groeswasgu gan roleri neu wesgi, yn y rhan fwyaf o brosesau, cyn y trosglwyddiad terfynol i’r is-haen. Wrth i’r inc gael ei drosglwyddo i’r is-haen, daw i gyswllt â’r is-haen ac wedyn bydd yn llifo’n ymestynnol wrth i’r is-haen a’r plât neu’r sgrin wahanu. Mae ffurfiad y ffilament, y llif oddi mewn i’r ffilament, a thoriad y ffilament yn hanfodol i ddiffinio’r nodwedd a gaiff ei argraffu.

Mae modd defnyddio’r ffordd hon o fesur gydag amrywiaeth eang o inciau, ac mae’n arbennig o ddefnyddiol er mwyn datblygu inciau swyddogaethol lle mae dyddodi’r inc yn fanwl-gywir, ac mewn ffordd y mae modd ei hailadrodd, yn allweddol ar gyfer perfformiad dyfais.

I gael mwy o wybodaeth am sut gallai’r dechneg hon eich helpu, cysylltwch â Dr David Beynon


Manylion y Prosiect

Hyd: Parhaus
Arweinydd y Prosiect: Dr David Beynon