Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Amethyst

Trosolwg o’r Prosiect

Mae clwyfau cronig, fel wlserau gwythiennol ar y coesau, yn effeithio ar ryw 2 filiwn o bobl yn Ewrop. Fel arfer, maent yn cymryd rhwng 12 a 24 wythnos i wella, ond mae 30% yn cymryd dros ddwy flynedd i wella, felly yn ogystal â dioddefaint y cleifion mae’r cost gofal iechyd cysylltiedig yn Ewrop yn €8biliwn y flwyddyn.

Nod prosiect AMETHYST (Ambulatory Magneto Enhancement of Transdermal High Yield Silver Therapy) oedd lleihau’r amserau gwella drwy ddefnyddio Maes Magnetig ar Bwls (PEMF) a therapi ion arian uwch. Mae’r PEMF yn cynyddu crynodiad yr ionau arian sydd ar gael yn y clwyf wrth i’r claf wisgo dyfais aml-haen yn ei fywyd bob dydd.

Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru oedd yn gyfrifol am ymchwilio a datblygu’r elfen goil electromagnetig sy’n ffurfio haen uchaf gorchudd y clwyf. Roedd sawl cyfyngiad ar y dyluniad: Rhaid i’r gorchudd fod yn hyblyg, yn 2 ddimensiwn i raddau helaeth, a’i fod yn gallu trin arwyneb 5x5cm oddi mewn i orchudd 10x10cm.

 

 

 

 

 

 

Gan ddefnyddio proses argraffu sgrin, cynhyrchwyd coil electromagnetig mewn pentwr sydd, o’i gysylltu ag electroneg pwrpasol a thechnoleg batri ffilm denau, yn cynhyrchu pwls electromagnetig effeithiol i wely’r clwyf. Mae mwy o wybodaeth i’w gweld ar wefan prosiect Amethyst.

Mae prosiect AMETHYST yn deillio o grant FP7 gan y Comisiwn Ewropeaidd, ac roedd yn cynnwys consortiwm o gwmnïau a sefydliadau dan arweiniad Pulse Medical Technologies a Phrifysgol Abertawe.


Partneriaid y Prosiect


Manylion y Prosiect

Hyd: Wedi dod i ben
Arweinydd y Prosiect: Dr David Beynon