Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Accuflex

Trosolwg o’r Prosiect

Prosiect wedi’i ariannu gan Fwrdd Strategaeth Technoleg yw Accuflex, a’i nod yw datblygu system i gynhyrchu electroneg cost isel o rîl i rîl drwy argraffu fflecsograffig.

Drwy addasu’r prosesau argraffu cyflym rîl i rîl a ddefnyddir ar becynnau at ofynion cynhyrchu electroneg, gall argraffu fod yn ffordd swm uchel, cost isel, o weithgynhyrchu. Ond mae’r manwl-gywirdeb sydd ei angen wrth argraffu electroneg yn llawer uwch nag wrth argraffu graffeg, a gallai gwall bach olygu nad yw cydran neu ddyfais yn gweithio.

Ffurfiwyd y consortiwm i ddatblygu platfform technoleg ar gyfer cynhyrchu electroneg hyblyg, cost isel, drwy argraffu fflecsograffig. Roedd cwmpas y prosiect yn cynnwys datblygu unedau argraffu sefydlog a chadarn yn ogystal â systemau rheoli ac archwilio er mwyn gwella’r manwl-gywirdeb. Datblygwyd system plât fflecsograffig newydd sy’n galluogi argraffu’n gyson drwy arwynebau mwy ac ar bwysedd is. Ychwanegwyd elfennau ymarferol pellach i’r broses gyda modiwl peiriant laser a all abladu patrymau i mewn i’r ffilm inc ar we symudol. Hefyd, datblygwyd inciau ymarferol i’w hargraffu ar is-haenau isel eu cost, gan gynnwys deunyddiau bioddiraddadwy.


Partneriaid y Prosiect


Manylion y Prosiect

Hyd: 2008 – 2011
Arweinydd y Prosiect: Dr Simon Hambyln