Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Fast2Light

Trosolwg o’r Prosiect

Fast2light oedd un o brif Brosiectau Integredig FP7, a’i nod oedd datblygu prosesau dyddodi arwynebedd mawr ar gyfer masgynhyrchu OLED arwynebedd mawr, hyblyg, ffilm denau, o rôl i rôl, ar gyfer goleuo.

Mae i dechnolegau electroymoleuedd organig (OLED) y potensial i chwyldroi cymwysiadau goleuo, drwy greu ffynonellau golau hyblyg, tenau, ysgafn sy’n effeithlon o ran pŵer.

Bu OLED yn destun ymchwil helaeth yn y blynyddoedd diweddar, yn arbennig o ran datblygu arddangosfeydd gwydr. Wrth symud o arddangosfeydd bach i OLED hyblyg ag arwynebedd mawr ar gyfer goleuo, mae amryw heriau technolegol yn codi y mae gofyn mynd i’r afael â nhw.

Ffurfiwyd consortiwm Fast2Light i fynd i’r afael â’r heriau gan geisio cryfhau safle arweiniol y Diwydiant Golau Ewropeaidd drwy alluogi technolegau newydd a chyfleoedd yn y farchnad. Amcan y prosiect yw datblygu dulliau newydd, costeffeithiol rôl i rôl ar gynhyrchiant uchel, er mwyn cynhyrchu ffoiliau OLED polymer sy’n allyrru golau ar gyfer cymwysiadau golau deallus.

Roedd cwmpas y prosiect yn cynnwys yr holl haenau sy’n rhan o ffoil golau OLED. Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru oedd yn gyfrifol am ddatblygu haenau tryloyw hynod ddargludol, gan gynnwys datblygu technolegau argraffu ar gyfer patrymu polymerau organig ar arwynebedd mawr ac ar gyfer dyddodi rhwydweithiau arian nanoronynnau ar raddfa ficro.


Partneriaid y Prosiect

Roedd consortiwm Fast2Light yn cynnwys 14 partner o 8 o wledydd, gan gynnwys 3 sefydliad ymchwil, 2 brifysgol, 3 busnes bach a chanolig a 6 chwmni mawr:


Manylion y Prosiect

Hyd: 2008 – 2012
Arweinydd y Prosiect: Dr Davide Deganello


Cyhoeddiadau

  1. D. Deganello, J.A. Cherry, D.T. Gethin, T.C. Claypole, Impact of metered ink volume on reel-to-reel flexographic printed conductive networks for enhanced thin film conductivity, Thin Solid Film , 520:2233-2237, 2012
  2. D. Deganello, J.A. Cherry, D.T. Gethin, T.C. Claypole, Patterning of micro-scale conductive networks using reel-to-reel Flexographic Printing, Thin Solid Films, 518: 6113-6116, 2010
  3. D. Deganello, J.A. Cherry, D.T. Gethin, T.C. Claypole, Roll-to-roll flexographic printing of highly accurate conductive micro-scale networks, Conference Proceedings Scientific Conference LOPE-C 2012, tt. 325-328, 2012
  4. K.R. van den Hoonaard, S. Harkema, I. de Vries, G. Kirchner, J. J. Michels, D. Deganello, J.A. Cherry, E.W.A. Young, Towards all R2R printed SMOLED For Lighting, Signage and Display, The XVII International Display Workshop (Japan), IDW’09 proceedings tt.1619-1622, 2009