Flexo Masterclass on Brobygrafiska June 2019
Bu Brobygrafiska, Prifysgol Abertawe, Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru, icmPrint, Sweflex ac FTA Europe yn cynnal dosbarth meistr rhyngwladol rhwng 10 a 13 Mehefin yn Brobygrafiska yn Sunne.
Mae’r dosbarth meistr ar gyfer artistiaid graffig profiadol yn gyfle i’r cyfranogwyr ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau i’w galluogi i fanteisio i’r eithaf ar y dull argraffu hyblyg drwy ddefnyddio’r ymchwil diweddaraf ac ‘arfer gorau’.
Dyma gyfle unigryw i gyfuno damcaniaeth ac ymarfer â chymysgedd dyddiol o ddarlithoedd a gweithdai sy’n cynnwys yr ymchwil technolegol diweddaraf a’i roi ar waith ar wasg argraffu Brobygrafiska.
“Gwelwn fod diddordeb rhyngwladol yn Brobygrafiska yn cynyddu ac mae gennym gyfranogwyr a phartneriaid o Gymru, UDA, Ffrainc, Latfia, Gwlad Belg, Denmarc a Sweden” meddai Per Branzén, rheolwr gweithredol Brobygrafiska.
“Mae’r cydweithrediad â Brobygrafiska yn galluogi ymchwil a wneir yng Nghanolfan Argraffu Cymru i gael ei roi ar waith a’i brofi yng ngwasg argraffu Brobygrafiska, a’i ddefnyddio’n uniongyrchol yn y pen draw”.
Ochr yn ochr â damcaniaeth ac ymarfer, mae’r cyfranogwyr wedi gwerthfawrogi ymweliadau astudio ag OptiPack a Marvaco yn Sunne.
“Effaith y dosbarth meistr yw bod profiadau gwahanol y cyfranogwyr, ynghyd â rheolaeth y cwrs, yn taflu goleuni newydd ar agweddau y byddai’n cymryd llawer o amser i’w darganfod fel arall “meddai Thomas Scherpereel, Datblygwr Busnes, Asahi-Photoproducts.