Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Ein Gweithwyr

Yr Athro Tim Claypole

Cyfarwyddwr y Ganolfan

E-bost: 

Tim Claypole yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru. Y mae’n aelod o’r gyfadran yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Mae ei feysydd ymchwil yn cynnwys rheoli lliw, systemau gweithgynhyrchu, ansawdd, cynnal a chadw, dylunio arbrofol dibynadwyedd, mecaneg hylifau a thermodynameg prosesau. Y mae’n Arbenigydd Prydain ar ISO TC130 ar safonau ar gyfer y celfyddydau graffeg. Yn ogystal â graffeg a phecynnu, y mae ganddo waith ymchwil sydd ar flaen y gad yn fyd-eang ar ddefnyddio prosesau argraffu swmp ar gyfer uwch weithgynhyrchu amrywiaeth eang o gynnyrch gan gynnwys electroneg, synwyryddion ac iechyd pwynt gofal.

Dan arweiniad Tîm, enillodd prosiect DIPLE, a ariannwyd gan ERDF, wobr Regiostars 2009 am Ymchwil, Datblygu Technoleg ac Arloesi, gan adlewyrchu’r modd llwyddiannus y trosglwyddwyd yr ymchwil i ddiwydiant. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i’r celfyddydau graffeg a diwydiant yn Rhestr Anrhydeddau Calan y Frenhines yn 2010.

Mae ei gyfraniad i’r diwydiant argraffu wedi’i gydnabod gan wobr TAGA Michael yn 2008, ac yn 2009 gan wobr arbennig EFTA am gyfraniad eithriadol i argraffu fflecsograffig. Ariannwyd ei waith ymchwil gan EPSRC, Llywodraeth a Diwydiant, gan arwain at ragor na 170 o gyhoeddiadau ar argraffu a phynciau cysylltiedig. Yn ddiweddar, cwblhaodd Grant Portffolio EPSRC ym maes ‘Hylifau Cymhleth ar gyfer Llifoedd Cymhleth’ – i grwpiau ymchwil sydd ar flaen y gad yn fyd-eang yn unig y caiff y rhain eu rhoi. Y mae’n gyd-ymchwilydd i Ganolfan Gweithgynhyrchu Arloesol Electroneg Arwynebedd Mawr yr EPSRC. Mae’r dyfarniad sylweddol hwn yn y DU yn cael ei ddal ar y cyd rhwng Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru a’r 3 canolfan ragoriaeth arall yn y DU ym maes Electroneg Argraffadwy – Prifysgol Caergrawnt, yr Imperial College, Llundain, a Phrifysgol Manceinion.