Ein Gweithwyr

Sakulrat Foulston
Myfyriwr EngD
Dechreuodd Sakulrat weithio fel cynorthwyydd peirianneg systemau, gan raddio â gradd Baglor mewn Peirianneg Gemegol o Brifysgol Mahidol yng Ngwlad Thai. Ymunodd wedyn â gwneuthurwr alcalinaidd gan weithio am dros 5 mlynedd yn swyddog gweithredol marchnata. Ar ôl symud i Abertawe ailgydiodd yn ei hastudiaethau yn 2009, gan ennill gradd MSc mewn Rheoli Ariannol cyn gwneud cymhwyster MRes mewn Rheoli Amgylcheddol. Ar hyn o bryd, mae’n astudio tuag at ddoethuriaeth peirianneg yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru ym maes trosglwyddo inc yn y broses fflecsograffig ar ôl iddi dderbyn ysgoloriaeth o dan gynllun MATTER (Manufacturing Advances Through Training Engineering Researchers).
Prosiect: Anilox Cell Geometrics for Printable Electronics and Flexible Packaging.