Ein Gweithwyr
Miles Morgan
Myfyriwr PhD
Mae Miles yn astudio tuag at PhD mewn Nanodechnoleg yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo radd baglor mewn ffiseg, ac yn 2014 cwblhaodd radd meistr mewn Nanodechnoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Fel rhan o’i radd Meistr, bu’n gweithio yn y Ganolfan i wella ffilmiau dargludol tryloyw sy’n cynnwys nanoddeunyddiau carbon. Mae gwaith presennol Miles yn ymwneud â datblygu technegau rheometrig i astudio llifoedd ymestynnol ac elfennau ansefydlog arwynebol ym maes argraffu fflecsograffig.