Ein Gweithwyr
Joseph Morgan
Myfyriwr EngD
Mae Joseph Morgan yn fyfyriwr ôl-raddedig yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae’n aelod o Academi M2A.
Yn 2014, derbyniodd Joseph radd baglor mewn Peirianneg Fecanyddol (dosbarth 1af) o Brifysgol Abertawe, a bellach mae’n gweithio tuag at Ddoethuriaeth mewn Peirianneg yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru. Mae’r cynllun EngD yn ysgoloriaeth lawn a ariennir yn rhannol gan gwmni nawdd, Haydale Ltd, a MATTER. Fel rhan o’r gwaith, mae Joseph wedi cymryd nifer o fodiwlau ar lefel meistr i ehangu’r wybodaeth a enillodd pan oedd yn fyfyriwr israddedig a’i alluogi i weithio tuag at ddatblygu technolegau newydd drwy ymchwil arbrofol yn y sector electroneg argraffedig. Mae gan Joseph ddiddordeb mewn lleihau effaith amgylcheddol drwy atebion peirianyddol deallus, ac mae’n ymdrechu i ystyried goblygiadau posibl y technolegau y mae’n ymchwilio iddynt.
Pan nad yw’n ymchwilio yn y brifysgol, mae Joseph yn treulio amser yn safle’r cwmni nawdd yn defnyddio eu cyfleusterau labordy arbennig ac yn datblygu ei wybodaeth ymarferol o’r cwmni.