Ein Gweithwyr
Emily Radley
Myfyriwr EngD
Mae Emily yn astudio tuag at EngD mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru, Prifysgol Abertawe. Yn 2014, enillodd radd baglor mewn Cemeg o Brifysgol Sussex. Ers cychwyn ar radd EngD yn Abertawe, ymgymerodd Emily â nifer o fodiwlau gwyddor deunyddiau yn ogystal â gweithio gyda Beckers, y cwmni sy’n noddi’r prosiect, i ynysu gwynnu dan straen mewn samplau metel wedi’u caenu ymlaen llaw. Mae gwaith presennol Emily yn ymwneud â datblygu profion mecanyddol a chemegol i bennu sut gall gwynnu dan straen ddigwydd mewn gwahanol systemau o fetelau wedi’u caenu ymlaen llaw. Mae hefyd yn delweddu samplau yn fanwl-gywir er mwyn cymharu micro-strwythur gwahanol ddeunyddiau sydd wedi gwynnu dan straen.