Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Ein Gweithwyr

David Shaw

Myfyriwr EngD

Mae David yn astudio tuag at EngD ym Mhrifysgol Abertawe mewn cyswllt â SPECIFIC, Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru ac NSG.

Bu’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd lle y derbyniodd radd BSc mewn Ffiseg cyn dod i Brifysgol Abertawe ac ennill gradd Meistr Ymchwil mewn Peirianneg Deunyddiau. Fel rhan o waith ymchwil ei radd Meistr, gweithiodd mewn partneriaeth â Tata Steel, yn ymchwilio ym maes gwyddor cyrydu, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddeinameg cyrydu a nodweddion dur wedi’i gaenu â thun mewn amrywiaeth o amgylcheddau asidig. Yn ei waith ymchwil presennol, mae’n gweithio gydag amryw bartneriaid academaidd a diwydiannol i ychwanegu elfennau swyddogaethol i is-haenau gwydr.


Prosiect:  Transparent Conductors