Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Ein Gweithwyr

Glyn Davies

Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu

E-bost: 

Mae Glyn yn gweithio yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru fel Swyddog Allgymorth ac Ymgysylltu. Yn flaenorol, bu’n gweithio yn y diwydiant argraffu ac mae ganddo mwy nag 20 mlynedd o brofiad, gan gynnwys yn Rheolwr Cynhyrchu, Rheolwr Technegol a Rheolwr Gwaith mewn ffatrïoedd argraffu fflecsograffig, roto-engrafu a lithograffig. Yn ychwanegol at ei brofiad ym maes argraffu, bu hefyd yn gyfarwyddwr mewn cwmni hysbysebu awyr agored bach.

Cyn ymuno â’r Ganolfan, ac yn ystod ei gyfnod yn y diwydiant, cwblhaodd Glyn MSc rhan amser mewn Technoleg Cymhwyso Lliw, lle’r oedd yn ystyried effeithiau cyflymder a gludedd ar ansawdd yr argraffu ym maes argraffu roto-engrafu. Fel rhan o’i waith yn y Ganolfan, mae Glyn yn cydweithio’n agos â phartneriaid yn y diwydiant ac yn cynnal cyswllt â hwy ar bob agwedd ar waith diwydiannol y Ganolfan, yn amrywio o brosiectau byr i faterion ymchwil hirdymor. Yn ddiweddar, bu Glyn yn reolwr prosiect ar Micro and Nano Technologies for Healthcare, sef prosiect a noddwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.