Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Ein Gweithwyr

Dr Tim Mortensen

Cynorthwyydd Ymchwil

E-bost: 

Derbyniodd Tim radd MPhys ym Mhrifysgol Abertawe yn 2009, a chwblhaodd PhD dan nawdd yr EPSRC ar ‘Drin cylchdroadau magnetron gronynnau a chymylau mewn croniadur nwy byffer dau gam’ yn yr un sefydliad yn 2013. Yn ystod ei ymchwil ym maes systemau gwrthfater yn Abertawe a Saclay, Paris, nid unig y bu’n casglu a dadansoddi data arbrofol, ond bu hefyd yn dylunio ac adeiladu amrywiaeth o galedwedd a meddalwedd pwrpasol i hwyluso’r gwaith o gaffael a dadansoddi data yn symlach. Ar ôl dychwelyd i Brydain yn 2014, cynigwyd rôl i Tim ar brosiect ym maes electroneg argraffedig yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru i greu synhwyrydd pwysedd argraffedig cost isel. Bu i’r prosiect fynd ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau. Mae’r dechnoleg y tu ôl i’r synhwyrydd wedi’i batentu ac mae yn y broses o gael ei fasnacheiddio gan bartneriaid diwydiannol y Brifysgol. Y mae bellach yn gweithio ar brosiect FLEXIPOWER, sef prosiect wedi’i ariannu gan Ganolfan yr EPSRC er Gweithgynhyrchu Arloesol mewn Electroneg Arwynebedd Mawr, i ddatblygu systemau cynaeafu ynni di-wifr argraffedig.


Prosiect: Flexipower