Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Ein Gweithwyr

Dr Ben Clifford

Cynorthwyydd Ymchwil

Mae Ben Clifford yn fyfyriwr PhD yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ei waith ymchwil, mae’n edrych ar ddyddodiad jet aerosol ar gyfer datblygu electroneg argraffedig. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn edrych ar fformiwleiddio inciau i’w defnyddio’n benodol gan dechneg jet aerosol yn ogystal ag ymchwilio i effeithiau paramedrau proses ar ansawdd argraffu a pherfformiad electronig.

Cyn cychwyn ar ei PhD, derbyniodd Ben radd Meistr Peirianneg (MEng), dosbarth cyntaf, ym Mhrifysgol Abertawe, mewn Electroneg a Chyfrifiadureg. Yn ystod ei astudiaethau israddedig, ymchwiliodd i ddatblygu a gweithredu system monitro deallus i ofalu am gleifion sy’n dioddef o niwropatheg ddiabetig.  Yn ei waith ymchwil ar lefel Meistr, edrychodd ar ddatblygu dyfais logio pŵer ar gyfer systemau ffotofoltaidd i sicrhau’r allbwn pŵer mwyaf.

Yn ychwanegol at ei astudiaethau academaidd, bu Ben yn gweithio mewn nifer o swyddi mewn diwydiant, gan gynnwys yn Ymgynghorydd Bluetooth ac Electronig i NextGen Technology a Pheiriannydd Gweithrediadau Gwasanaeth i Vodafone UK.