Ein Gweithwyr
Dr Tatyana Korochkina
Uwch Ymchwilydd
Derbyniodd Tatyana radd mewn Peirianneg Fecanyddol o Brifysgol Voronezh, Rwsia, ym 1978. Bu’n gweithio i Sefydliad Ymchwil Metel-Polymer yn Academi’r Gwyddorau, Belarws, rhwng 1978 a 1999, gan gwblhau ei PhD hefyd. Ers 1999, bu Tatyana yn uwch ymchwilydd yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys modelu rhifiadol ac ymchwilio arbrofol ym mhob agwedd ar y broses mewn gwahanol gymwysiadau gan gynnwys electroneg argraffedig, synwyryddion a chynaeafu ynni.
Prosiect: STEELPV – Sustainable Steels for Direct Deposition of Photovoltaic Solar Cells