Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Ein Gweithwyr

Andrew Claypole

Myfyriwr PhD

Derbyniodd Andrew radd dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn fyfyriwr israddedig, cafodd brofiad gwaith gyda Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru, yn profi perfformiad gwresogyddion arian argraffedig. Ar ôl hynny, creodd gysyniad am wresogydd argraffedig i’w wisgo gan ddefnyddio inciau nano-blatennau graffen swyddogaethol. Yn dilyn ei brosiect yn y drydedd flwyddyn lle llwyddodd i ddatblygu gwresogydd argraffedig, gwisgadwy, hyblyg, pŵer isel, a gafodd ei betantu yn ddiweddarach, cynigwyd iddo’r cyfle i ddatblygu’r ddyfais hon ymhellach er mwyn ennill gradd EngD mewn Peirianneg Deunyddiau yn Academi Deunyddiau i Weithgynhyrchu, Prifysgol Abertawe, dan nawdd Haydale Limited. Gan weithio fel rhan o’r grŵp ymchwil sydd ar flaen y gad yn fyd-eang yn y Ganolfan, caiff Andrew gyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau ymchwil gwych sydd yng nghampws newydd Prifysgol Abertawe – Campws Arloesedd y Bae, yn ogystal â chyfleusterau partneriaid byd-eang y ganolfan. Bydd hyn yn ei alluogi i optimeiddio’r inc a’r broses drwy dechnegau dadansoddi, yn ogystal â dadansoddi perfformiad thermol a thrydanol y gwresogydd. Gan gydweithio â grŵp ymchwil chwaraeon A=STEM ym Mhrifysgol Abertawe, bydd Andrew yn defnyddio ei gefndir ym maes gwyddor chwaraeon i gynnal arbrofion ffisiolegol i helpu i optimeiddio dyluniad y gwresogydd gan sicrhau’r perfformiad chwaraeon gorau posib.


Prosiect: Elite Sport as a Test Arena for Wearable Technology