Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen
Events; conferences


Cynhadledd Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru

Dyddiad: 6ed a 7fed Tachwedd 2017

Lleoliad: Gwesty’r Marriott, Abertawe, Marina Abertawe, SA1 3SS

Bydd y gynhadledd yn gyfle i weld gwaith ymchwil diweddaraf y Ganolfan ym maes technoleg argraffu, trafod y canfyddiadau gydag ymchwilwyr a rhwydweithio gyda chyfranogwyr o gyffelyb fryd yn y diwydiant. Bydd pob cyflwyniad yn bapur technegol ar sail y canlyniadau a’r gwaith dadansoddi diweddaraf sy’n deillio o arbrofion wedi’u rheoli a modelau rhifiadol.

Caiff y gynhadledd ei chynnal gan Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru mewn cydweithrediad ag icmPrint Ltd. Mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn ganolfan ymchwil sy’n adnabyddus yn fyd-eang, ac yn ymrwymedig i hybu dealltwriaeth a chynhyrchiant yr holl agweddau ar argraffu a chaenu. Mae’r Ganolfan yn cyfoethogi dealltwriaeth o brosesau argraffu a haenu, yn manteisio ar ddulliau newydd ym maes gweithgynhyrchu sy’n defnyddio argraffu ac yn cymhwyso ei chanfyddiadau gwyddonol er budd ei phartneriaid diwydiannol byd-eang. Gyda phrofiad helaeth ym maes argraffu pecynnau a graffeg, adeiladodd y Ganolfan ar y wybodaeth hon ac mae bellach yn ganolfan ar gyfer deunyddiau ymarferol, electroneg plastig a bio-argraffu.