Cambrian Printers
Mae Cambrian Printers yn fusnes Argraffu Lliw sydd wedi’i berchen gan deulu ac fe’i leolir yn Aberystwyth.
Y gofyniad
I ymchwilio lefelau Cyfansoddion Organig Anweddol (VOC) yn aer y ffatri argraffu. Gwerthuswyd effaith newidiadau mewn dulliau cynhyrchu, amnewid ac adleoli cyfarpar yn ogystal â chyfleusterau echdynnu.
Yr ateb
Gweithiodd Cambrian Printers Cyf gyda WCPC ar y fframwaith ar gyfer y prosiect DIPLE a ariannwyd gan ERDF.
Cynhaliwyd y prosiect dros gyfnod o amser wrth i newidiadau gael eu gwneud i’r broses gynhyrchu.
I asesu’r effaith y cafodd y newidiadau ar lefelau VOC yn yr aer casglwyd samplau o leoliadau strategol yn y ffatri.
Cafodd y samplau eu gwerthuso gan ddefnyddio GCMS ac adroddwyd ar y canlyniadau.
Manteision y dull hwn
Roedd modd i Cambrian Printers wneud newidiadau yn eu ffatri a ostyngodd y lefelau VOC gan wella’r amgylchedd gwaith tra’n lleihau allyriadau.
Roedd y cwmni yn fwy gwybodus ynghylch ffynhonnell VOC a sut i leihau eu lefelau.
Beth ddywedodd ein cleientiaid
“Mae adnoddau WCPC yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gallwn ei gyflawni ein hunain. Maent yn gymorth credadwy ac annibynnol yn wyneb cyflenwyr technoleg gymhleth rhyngwladol sy’n datgan ‘nid fy mhroblem i’ yw rhywbeth. Mae eu hadroddiadau’n rhoi llawer o fanylder ond ceir casgliadau clir i alluogi gweithredu ymarferol hyderus.
Mae eu gwybodaeth yn ddilys ar gyfer cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau gan reolwyr ac yn ddealladwy i’n gweithwyr ac mae wedi cynorthwyo â newid agweddau ac arferion er gwell.
Yn ogystal mae eu hamser ymateb cyflym yn bwysig. Mae WCPC wedi ein cynorthwyo i leihau gwastraff argraffu costus a’i ynni cyfatebol. Mae eu profion VOC a’u hasesiadau sain wedi caniatáu i ni ddeall y risgiau hyn yn well a gwneud gwelliannau i’w cadw i’r isafswm.
Cwmni Deillio Meddygol
Defnyddiwyd yr arbenigedd a dderbyniwyd trwy brofion aer y ffatri mewn astudiaeth o ddiagnosis COPD gan broffilio VOC anadliadau (200+ o oddrychau) gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.