Seargeant Brothers
Seargeant Brothers
Mae Seargeant Brothers Printers yn fusnes dylunio ac argraffu ffyniannus a leolir ym Mhont-y-pŵl, De-ddwyrain Cymru
Y gofyniad
I ymchwilio lefelau sain yn y ffatri argraffu o ganlyniad i gyfarpar argraffu a gorffen gan sicrhau monitro parhaus ar ôl newid gosodiad a pheiriannau.
Yr ateb
Gweithiodd Seargeant Brothers a WCPC gyda’i gilydd ar y fframwaith ar gyfer y prosiect DIPLE a ariannwyd gan ERDF.
Cynhaliwyd y prosiect dros gyfnod o amser wrth i beiriannau argraffu gael eu hamnewid a gosodiad y ffatri cael ei newid. Mesurwyd lefelau sain ar draws y ffatri o dan ystod o amodau gwahanol.
Gwnaethpwyd argymhellion ynghylch gofynion amddiffyn y clyw.
Manteision y dull hwn
Roedd y cwmni mewn sefyllfa well i amddiffyn ei weithlu rhag sain ormodol ac i gydymffurfio â deddfwriaeth sy’n ymwneud â sain. Roedd y cwmni yn fwy gwybodus ynghylch lefelau sain a gynhyrchir gan eitemau o’r cyfarpar a sut i ddewis amddiffyniad y clyw priodol ar gyfer ystod o senarios.
Beth ddywedodd ein cleientiaid
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ers nifer o flynyddoedd i’n galluogi i sicrhau bod ein gweithlu yn wybodus ac yn derbyn amddiffynwyr y clyw angenrheidiol tra hefyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Maent wedi cynnal profion manwl ac amrywiol gan ymgysylltu â’r staff a’u cynnwys yn y profion i sicrhau y caiff darlun cywir ei gynrychioli. Maent yn darparu gwasanaeth o’r safon orau gan roi cyngor gwerthfawr, argymhellion sy’n hawdd eu deall a chymorth parhaus oherwydd gall sefyllfaoedd newid. ”