Uwchsgilio eich gweithlu
Cyrsiau Byr
Gallwn weithio mewn partneriaeth â’ch cwmni i ddatblygu’r cwrs cywir i’ch gweithlu. Gan ddefnyddio cymysgedd o gyflwyniadau rhyngweithiol ac arddangosiadau ymarferol, gellir teilwra ein cyrsiau i gwmpasu unrhyw broses argraffu a’u darparu ar lefel sy’n addas i chi a’ch gweithlu.
Rhaglenni i Raddedigion
Mae’r Ganolfan yn rhoi cyfle i gwmnïau noddi rhaglen gwaith ymchwil sydd wedi’i seilio ar y maes y mae ganddynt ddiddordeb ynddo neu eu gofynion.*
*(Gall ymgeiswyr naill ai gael eu dewis o’r tu mewn i’r cwmni neu gael eu recriwtio’n arbennig ar gyfer y dasg. Yn y naill achos a’r llall, byddwn yn gweithio gyda’ch cwmni i sicrhau eich bod yn cael yr ymgeisydd mwyaf priodol sy’n cyflawni’r safon addysgol ofynnol ac sy’n deall yr ymrwymiad o dan sylw cyn cychwyn y cymhwyster.)
Gradd Meistr drwy Ymchwil
Prosiect 12 – 18 mis yw hwn sydd wedi’i anelu at weithredu technegau er mwyn ymchwilio i gynhyrchion neu brosesau presennol a’u gwella, neu ddatblygu cynhyrchion neu brosesau newydd.
Doethuriaeth mewn Peirianneg
Rhaglen pedair blynedd o waith ymchwil gwyddonol manwl a fydd yn meithrin dealltwriaeth newydd er mwyn datblygu maes cynhyrchu.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o’n cyrsiau neu os hoffech siarad gyda ni ynglŷn â llunio cwrs pwrpasol yn arbennig ar eich cyfer, cysylltwch â ni