Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Rhaglen Ymchwil a Phartneriaeth

Cefnogi  datblygiad argraffu fel proses gweithgynhyrchu uwch  drwy  gymhwyso’r   wybodaeth  wyddonol sy’n eu tanategu a  thrwy hyrwyddo  arfer gorau  yn y diwydiant. Mae  cwmpas Rhaglen Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru  yn cynnwys yr holl brosesau argraffu a’u technolegau cysylltiedig ar gyfer pob maes, gan gynnwys cyhoeddi, pecynnu, diogelwch, ffabrigau, cerameg, addurno cynhyrchion, electroneg polymer, technoleg y gellir ei gwisgo, bwyd a bioddeunyddiau.


Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru

Drwy fod yn  Aelod Cysylltiol, rydych yn datgan i’ch cyflenwyr a’ch cwsmeriaid eich bod chi a’ch cwmni yn:

·         Gweithredu ar flaen y gad ym maes datblygu prosesau a chynhyrchion

·         Gwella cynhyrchion drwy ddealltwriaeth well o brosesau a deunyddiau crai

·         Defnyddio arferion gorau ar sail egwyddorion gwyddonol cadarn

·         Defnyddio adnoddau arbenigol

·         Annog rhagoriaeth  drwy’r gadwyn gyflenwi

·         Cynhyrchu nwyddau i’r safonau  uchaf

·         Meithrin ac yn  cefnogi arloesedd

Caiff pob cwmni cysylltiol wahoddiad i anfon cynrychiolydd am ddim i Gynhadledd Dechnegol Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru a mynediad i weithdai a drefnir yn ôl y galw.


Manteision  Aelodaeth Gysylltiol

·         Mae aelodau cysylltiol Canolfan Argraffu a Haenu Cymru  wedi  ymwneud â phrosiectau sydd wedi gwella eu sefyllfa yn y farchnad a’u cynnyrch

·         Bydd digwyddiadau rhwydweithio’n rhoi cyfle i chi gwrdd â chwsmeriaid a chyflenwyr

·         Bydd parch tuag at eich cwmni’n cynyddu o ganlyniad i ymwneud ag ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang

·         Mae Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru’n gweithredu fel arbenigwr mewn safonau rhyngwladol ac Ewropeaidd, felly gall ddarparu cyfrwng i chi fynegi’ch gofynion a’ch pryderon.


Nodweddion Aelodaeth Gysylltiol

·         Gweminarau technoleg rheolaidd  ar y prosiectau cyfredol i aelodau yn unig

·         Cynhadledd ac Arddangosfa Dechnegol Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru

·         Llyfrgell o astudiaethau ac adroddiadau ymchwil a datblygu ar gael i aelodau yn unig

·         Cyfle i chi a’ch cwmni gyflwyno gweminarau technegol mynediad agored

·         Llinell  gyngor ar gyfer aelodau cysylltiol

·         Canllawiau, adroddiadau a phosteri i’w lawrlwytho am ddim

·         Cylchlythyron sy’n cynnwys y diweddaraf am wyddoniaeth, technoleg ac arferion gorau

·         Prisiau is am wasanaethau, cyrsiau,  gweithdai  ayb

·         Tystysgrif aelodaeth gysylltiol a dolenni aelodaeth gysylltiol ar eich gwefan

Dod yn gydymaith

Tudalen aelodau cysylltiol