STEELPV
Sustainable Steels for Direct Deposition of Photovoltaic Solar Cells
Prif amcan prosiect STEELPV yw gwneud dur strwythurol ‘garw’ yn swyddogaethol fel is-haenau uniongyrchol ar gyfer dyfeisiau ffotofoltaidd (PV) i’w defnyddio fel PV wedi’u Hintegreiddio yn yr Adeilad (BIPVs).
Mae’r prosiect wedi’i rannu i’r is-amcanion canlynol:
- dethol is-haenau dur gan roi ystyriaeth i’r angen i gystadlu ag is-haenau ffotofoltaidd eraill fel gwydr, silicon a pholymerau;
- datblygu triniaethau arwyneb arloesol a haenau canolig ar lefel labordy er mwyn i’r is-haenau dur a gaiff eu dethol fod yn addas ar gyfer prosesau dyddodi ffotofoltaidd ffilm denau;
- gwerthuso gwahanol ddulliau diogelu ochr gefn y dur (e.e. caenau organig ac anorganig) a phrosesau mewngapsiwleiddio’r system ‘caen ochr gefn / dur / PV’;
- cynyddu lefel yr atebion dur / haenau canolig a chreu cynnyrch arddangos gan gynnwys paneli gwastad 30cm x 30cm, dalennau hyblyg 18cm x 180cm, a choiliau 30cm o led gan ddefnyddio gwahanol dechnolegau dyddodi y gellid eu hintegreiddio i linell caenu dur;
- datblygu safonau a phrotocolau arfer orau ar gyfer cynnyrch dur / haenau canolig; ymgysylltu â phwyllgorau safoni a datblygu manylebau ar gyfer dur ‘gradd solar’.
Bydd y technolegau a ddatblygir yn STEELPV yn addas naill ar gyfer cynnyrch terfynol hyblyg (a ddefnyddir i roi dros strwythurau cymhleth geometrig sydd eisoes yn bodoli) neu led-anhyblyg (a ddefnyddir fel rhan fecanyddol o’r strwythur).