Screen Printing of Functional Materials and Sensors
Mae argraffu sgrin yn broses argraffu hynod amlbwrpas, a gall greu amrywiaeth o gynnyrch gan gynnwys erialau, synwyryddion a byrddau cylched argraffedig, yn ogystal â graffeg. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar effaith amryw baramedrau’r broses ar amrywiaeth o inciau a sgriniau er mwyn datblygu dulliau rhagweladwy a sefydlu arferion gorau.
Mae modd rhannu’r amcanion yn dair prif ran:
i. canfod sut mae paramedrau’r broses argraffu yn rhyngweithio â chydraniad, garwedd arwyneb a chofrestriad amrywiaeth o inciau cymhleth ar amrywiaeth o sgriniau.
ii. sefydlu effaith y broses argraffu sgrin ar gyfeiriadedd ac aliniad gronynnau yn y print.
iii. sefydlu effaith trin a gelio ar y ffilmiau argraffedig, yn arbennig ar lithro, garwedd arwyneb a chyfeiriadedd gronynnau.
Er mai defnyddio inciau swyddogaethol fydd prif ffocws y prosiect, bydd hefyd y ceisio bod o fudd i gymwysiadau traddodiadol, fel inciau graffeg, drwy wella ansawdd y broses a pha mor ragweladwy ydyw.