Flexipower
Mae prosiect Flexipower yn creu system cynaeafu ynni tonfedd radio wedi’i hargraffu er mwyn darparu pŵer i ddyfeisiau ynni isel.
Yn aml, caiff manteision niferus electroneg argraffedig, fel cost isel, hyblygrwydd a maint, eu dad-wneud mewn dyfeisiau wrth iddynt gael eu cyfuno â batrïau neu bŵer allanol. Bydd disodli batrïau mewn dyfeisiau wedi’u hargraffu yn creu dull costeffeithiol ac amgylcheddol o bweru’r genhedlaeth nesaf o electroneg.
Mae prosiect Flexipower yn ceisio creu systemau i ddarparu pŵer bach (˜1mA) dros gyrhaeddiad o 0-3m.