Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen


Anilox Cell Geometries for Printable Electronics and Flexible Packaging

Amcan y prosiect hwn yw datblygu’r wyddor sylfaenol a’r diffiniadau allweddol y gellir eu defnyddio i ddisgrifio nodweddion cludo inc silindrau anilox wedi’u hysgythru. Bydd yn cynnwys astudio’r modd y caiff inc ei drosglwyddo o’r anilox er mwyn nodi paramedrau allweddol yr anilox sy’n effeithio ar ryddhau’r inc a sut mae’r rhain yn rhyngweithio â nodweddion ffisegol yr inc (gludedd, maint a siâp y pigment, ac ati) a pharamedrau’r broses argraffu.

Budd i’r prosiect hwn nifer o fanteision i’r diwydiant argraffu fflecso, gan gynnwys dealltwriaeth o sut mae inciau’n rhyngweithio â strwythurau anilox. Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth argraffu effeithiau arbennig, ac inciau diogelwch a swyddogaethol, fel yn achos electroneg argraffedig. Nid y nod hirdymor yw diffinio geometreg optimwm yr anilox, am y caiff hyn ei ddylanwadu gan y defnydd a wneir ohono. Yn hytrach, y nod yw creu model dadansoddol a fyddai’n galluogi i ryddhad yr inc gael ei ragweld ar sail mesuriadau’r anilox a nodweddion yr inc.