Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Gweinidog yr Economi yn dathlu rhagoriaeth gwyddoniaeth a pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe

Heddiw (Gorffennaf 5ed), rhoddwyd cydnabyddiaeth i brofiad trawiadol Prifysgol Abertawe o gynnal prosiectau cydweithio i gynhyrchu technolegau arloesol ar draws de Cymru, gydag ymweliad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.

Cynhelir arddangosfa arbennig i nodi cywaith diweddar Abertawe â Phrifysgol Caergrawnt, yr Imperial College, Llundain, a Phrifysgol Manceinion wrth ffurfio Canolfan er Gweithgynhyrchu Arloesol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC).

Ymwelodd y Gweinidog ac arbenigwyr diwydiant yng Nghymru â Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru i gael gweld cynnyrch newydd sy’n cael eu datblygu’n lleol i’w defnyddio yn niwydiant LAE, sy’n rhoi atebion electronig i feysydd sy’n llawer mwy na dimensiynau bwrdd cylched arferol, fel set deledu sgrin fawr.

Llun: O’r chwith i’r dde: yr Athro Tim Claypole, Cyfarwyddwr Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru; Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe; Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a Syr Roger Jones OBE, Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe.

Cafodd statws EPSRC y Brifysgol ei sicrhau yn gynharach eleni wedi i raglen Llywodraeth Cymru, Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B), a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd, chwarae rôl allweddol wrth sicrhau cyfran o’r cyfanswm o £5.6 miliwn a ddyfarnwyd gan EPSRC i Ganolfan LAE.

Dewiswyd Abertawe, ynghyd â phrifysgolion eraill, yn esiamplau arbennig o sut gall cronfeydd strwythurol gael eu defnyddio ar y cyd â chyllid cyngor ymchwil. Derbyniodd Prifysgol Abertawe £1.4 miliwn fel un o’r rhai a nodwyd yn ganolfan academaidd er rhagoriaeth ar gyfer diwydiant Electroneg Arwynebedd Mawr (LAE).

Caiff y cyllid ei ddefnyddio gan academyddion yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru, Prifysgol Abertawe, i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu parhaus ar y cyd ag amryw gwmnïau lleol sy’n gweithio ym maes Electroneg Arwynebedd Mawr.

Yn ystod yr ymweliad, meddai Ms Hart: “Mae gwaith Prifysgol Abertawe o ran cefnogi gwaith ymchwil a datblygu technolegau newydd sy’n deillio o gyfoeth o fusnesau lleol dawnus yn dod yn fwyfwy pwysig i economi Cymru.

“Gwyddom fod llwyddiant yn dibynnu ar gymunedau ymchwil, busnes ac addysg yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i adeiladu sylfaen wyddoniaeth gref a deinamig i gefnogi bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.”

Meddai Ms Hart wedyn: “Mae’r gwaith a wneir yn Abertawe yn enghraifft ragorol o sut mae cydweithio ledled Cymru yn helpu busnesau Cymru i barhau i ffynnu fel rhan o amcan ehangach Gwyddoniaeth i Gymru.”

Meddai Ms Hart hefyd: “Mae Llywodraeth Cymru wrth ei bodd i gael cynorthwyo Prifysgol Abertawe i ymuno â Chanolfan EPSRC a gwelais ganlyniadau cynnar y bartneriaeth hon yn yr arddangosfa heddiw.”

Roedd Tectonic International o Aberdâr ac Axiom Manufacturing, sy’n seiliedig yng Nghasnewydd, ymysg y cwmnïau partner a fu’n dangos i’r Gweinidog gynnyrch a phrosesau sydd eisoes wedi’u datblygu gyda chymorth Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys fersiynau’r genhedlaeth nesaf o elfennau sy’n cael eu defnyddio mewn goleuadau ynni isel, a datblygiadau mewn cludwyr delweddau o’r radd flaenaf i’w defnyddio yn y diwydiant argraffu.

Meddai’r Athro Tim Claypole, Cyfarwyddwr Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru, bod dod yn rhan o Ganolfan er Gweithgynhyrchu Arloesol EPSRC ar gyfer LAE yn golygu bod effaith ymchwil y ganolfan yn Abertawe yn cael ei phrofi’n ehangach nag erioed.

Meddai’r Athro Claypole: “Mae bod yn rhan o’r bartneriaeth hon yn caniatáu i Ganolfan Argraffu a Chaenu Cymru rannu arferion gorau, sy’n cael eu nodi drwy waith ymchwil a datblygu, gyda busnesau lleol er budd y diwydiant ehangach ledled Prydain ac Ewrop.

“Yn ein tro, rydym yn cyflwyno’r arbenigedd a rennir ar draws y pedair canolfan academaidd dan sylw i glwstwr o gwmnïau sydd, ar y cyd, yn gosod Cymru ar flaen y gad fel gwlad o ragoriaeth o ran datblygu deunyddiau swyddogaethol yn y diwydiant LAE.”