Neidio i'r cynnwys

Welsh Centre for Printing and Coating

Chwilio'r wefan
Dewislen

Prifysgol Abertawe yn llofnodi cytundeb i ymchwilio i ddulliau argraffu a chaenu arloesol

Cychwynnodd Prifysgol Abertawe ar gytundeb pum mlynedd arbennig â Haydale Graphene Industries plc.

Yn dilyn cwblhau rhaglen beilot lwyddiannus iawn InvestorG8 dan nawdd Llywodraeth Cymru, mae Prifysgol Abertawe wedi cychwyn ar gytundeb pum mlynedd arbennig â Haydale Graphene Industries plc i gynnal cyfres o brosiectau ymchwil i gynhyrchu cymwysiadau prototeip i’w defnyddio ym maes argraffu a chaenu.

Bydd y prosiectau yn cynnal ymchwil i ddefnyddio Nano-Blatennau Graffen (GNPs) Haydale neu nano-ddeunyddiau eraill a gyflenwir gan Haydale, er mwyn datblygu a gweithgynhyrchu cynnyrch gorffenedig, fformwleiddiadau inc a gwasgariadau eraill, yn ogystal ag inciau dargludol ac ynysol Haydale a fformiwleiddiwyd gan ei bartner – Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru.

Y cynnyrch cyntaf o’r fath i’w gynhyrchu o dan y cytundeb yw Dyfais Piesowrtheddol deallus, a elwir fel arfer yn synhwyrydd pwysedd. Gan ddefnyddio fersiwn wedi’i haddasu’n arbennig o inc dargludol Haydale, mae staff y Ganolfan wedi datblygu synhwyrydd pwysedd newydd ar ffurf ffilm denau hyblyg. Ystyrir bod yr amrywiaeth o gymwysiadau sydd i’r ddyfais hon yn sylweddol, yn arbennig am fod modd iddi gael ei ffurfio a’i bod yn deneuach na cherdyn credyd arferol. Gall y pwyntiau synhwyro lluosog fod ar draws arwynebedd mawr gan ychwanegu’n sylweddol at ba mor ymarferol ydyw ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd marchnad, fel lloriau diogelwch, synhwyro gollyngiadau mewn pibellau nwy a dŵr diwydiannol, ac asesu osgo mabolgampwyr sydd wedi’u hanafu.

Meddai Ray Gibbs, Prif Weithredwr Haydale:

“Er bod gennym gytundeb i gydweithio â’r Ganolfan a bod unrhyw eiddo deallusol sy’n deillio o hynny’n eiddo i Haydale, mae llawer o gyfleoedd eraill sy’n deillio o syniadau ac arbrofion staff Prifysgol Abertawe. Yn gyffredinol, caiff y rhain eu hariannu’n fewnol gan Abertawe i gychwyn, ac mae bellach gennym gytundeb i ystyried y rheini sy’n codi o ddefnyddio deunyddiau penodol. Rydym yn eithriadol o falch ein bod wedi dod i’r cytundeb hirdymor arbennig hwn. Mae ychwanegu hyn at ein helfennau presennol o gydweithio â’r Ganolfan yn sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran ymchwilio a chynhyrchu ym maes inciau wedi’u cyfoethogi â graffen sydd â defnydd eang yn y marchnadoedd argraffu a chaenu. O gyfuno hyn â’r opsiynau i Haydale dderbyn pob hawl eiddo deallusol newydd, mae’n golygu ein bod mewn safle cryf yn y farchnad.”

Meddai Dr. Gerry Ronan, Pennaeth Masnacheiddio Eiddo Deallusol ar gyfer Prifysgol Abertawe a Rheolwr Gyfarwyddwr Swansea Innovations Limited:

“Rydym wrth ein bodd i gael cychwyn ar y cytundeb arbennig hwn â Haydale. Y mae strwythur arbennig o arloesol i’r fargen, sy’n golygu bod y Brifysgol a’r staff-ddyfeiswyr yn derbyn breindal ar werthiant ynghyd ag ecwiti yn Haydale. Mae hyn yn golygu bod buddiannau pawb yn cyd-fynd ac yn sicrhau’r canlyniad gorau i bawb.”

Meddai’r Athro Tim Claypole, Cyfarwyddwr Canolfan Argraffu a Chaenu, Prifysgol Abertawe:

“Daeth Haydale i Brifysgol Abertawe gan eu bod yn ymwybodol ein bod yn arwain yn fyd-eang mewn ymchwil yn y gwyddorau argraffu. Cyflawnwyd hyn gan ein dull ‘ar sail her’ o gynnal ymchwil o safon fyd-eang, a’n gobaith yw iddo arwain at berthynas strategol hirdymor. Cyffrous yw gweld hyn yn cael ei ddefnyddio’n awr i yrru economi Cymru a chodi ein safle fel rhanbarth o ragoriaeth ym maes electroneg argraffadwy a’r defnydd ymarferol sydd i graffen mewn cynnyrch masnachol.”

Mae Haydale, sy’n seiliedig yn ne Cymru mewn cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol i brosesu a thrin nano-ddeunyddiau, yn hwyluso’r arfer o ddefnyddio graffen a nano-ddeunyddiau eraill mewn meysydd fel inciau, synwyryddion, storio ynni, cynnyrch ffotofoltaidd, cyfansoddion, paentiau a chaenau.