Ein Ffocws
Yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru, mae gennym wybodaeth ddatblygedig am bob agwedd ar argraffu a chaenu, ond rydym yn arbenigo yn yr hyn a ganlyn:
Graffeg a deunydd pacio
Maes sy’n cwmpasu argraffu traddodiadol a’r broses o integreiddio elfennau gweithredol ar gyfer diogelwch, monitro, a gwerth newydd-dra
Electroneg Brintiedig
Argraffu cydrannau dargludol a gweithredol ac integreiddio â chydrannau cyflwr solet
Meddygol a Biodechnoleg
Defnyddio datrysiadau ym maes argraffu i fasgynhyrchu dyfeisiau meddygol
Mae pob un o’r meysydd hyn wedi’i ategu gan broses o ddylunio deunyddiau sy’n defnyddio deuodau allyrru golau (LED) nano, copr nano, nanotiwbiau carbon, graffen, deunyddiau bio, a deunyddiau drydanol ymoleuol (EL).