Amodau a Thelerau Aelodaeth Gysylltiol
1. Bydd aelodau cysylltiol yn elwa o:
a. Mynediad i ymchwil a datblygu cyn gweddill y diwydiant argraffu.
b. Cydnabyddiaeth gyhoeddus o’u rôl yn y diwydiant argraffu.
c. Gweminarau rheolaidd
ch. Mynediad unigryw i wefan sy’n trafod datblygiadau mewn technoleg argraffu, fforymau i drafod datblygiadau a phroblemau yn y diwydiant argraffu.
d. Mynediad am ddim ar gyfer un person i Gynhadledd ac Arddangosfa Dechnegol Flynyddol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru
dd. Gostyngiad o 10% ar yr holl waith masnachol a wneir gan y Ganolfan ar ran y cwmni
2. Mae Rhaglen Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn brosiect a grëwyd gan y Ganolfan ac a reolir gan The International Centre for Manufacture by Printing Ltd (icmPrint)
3. Bydd aelodaeth gysylltiol ar gael i unrhyw gwmni, menter neu unigolyn, beth bynnag eu lleoliad, sy’n dymuno gwella eu dealltwriaeth o brosesau.
4. Caiff unrhyw gwmni, menter neu unigolyn sy’n dymuno ymaelodi â rhaglen Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru wneud hynny drwy gytuno i dderbyn yr Amodau a’r Telerau hyn a thrwy dalu’r ffi flynyddol.
5. Bydd Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn defnyddio’r ffioedd aelodaeth gysylltiol yn bennaf at ddibenion ariannu ymchwil i dechnoleg argraffu, cymwysiadau ac arfer gorau. Gellir ariannu ymchwil o’r fath naill ai drwy grant neu drwy ddyfarnu contract ymchwil i drydydd partïon. Gall yr ymchwil ymwneud â phrosiect penodol neu gall gynnwys noddi bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr.
6. Mae aelodau cysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru’n deall, yn gyffredinol, y caiff yr wybodaeth a gynhyrchir ei dosbarthu’n ddigyfyngiad o fewn y grŵp ac mewn fforymau eraill, ac eithrio lle bo cyfyngiadau penodol o ran hawlfraint neu gyfrinachedd yn cael eu gosod mewn perthynas â chanlyniadau gweithgareddau ymchwil penodol.
7. Bydd unrhyw hawliau eiddo deallusol sy’n gysylltiedig â chynnyrch penodol a gynhyrchir yn ystod ymchwiliadau gan Raglen Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn parhau’n eiddo i’r cwmni sy’n darparu’r cynnyrch.
8. Y Ffi Flynyddol ar gyfer Aelodaeth Gysylltiol ar hyn o bryd yw £1000 ond caiff ei hadolygu bob blwyddyn.